Coca-Cola
Diod cola yw coca-cola a gafodd ei greu gan The Coca-Cola Company o Atlanta, Georgia ac a adnabyddir, fel arfer, dan yr enw Coke sydd wedi ei gofrestru fel marc-cwmni yn yr Unol Daleithiau. Hwn ydy diod cola mwyaf poblogaidd y byd, a chystadleuwr cryf iddo yw Pepsi.
Hanes y cwmni
golygu- Prif: The Coca-Cola Company
Crewyd y cwmni ym 1886 gan John S. Pemberton. Bwriad y cwmni oedd cynnig rhywbeth gwahanol i "alcohol" yn ystod y cyfnod pan y gwaharddwyd alcohol (Prohibition) yn yr Unol Daleithiau.
Yn ystod yr "Ail Ryfel Byd", roedd yn anodd iawn allforio'r ddiod i'r Almaen. Dyma un o'r rhesymau dros greu'r ddiod newydd 'Fanta'.
Yn y 1980au newidiwyd fformiwla'r ddiod a rhoddwyd enw newydd arni, sef "New Coke". Roedd nifer o bobl yn casau'r cola newydd, ac o ganlyniad crewyd "Coke Clasurol" gan y cwmni.
Mae'r cwmni yma yn creu amrywiaeth o ddiodydd eraill.
Nadolig - Y Siôn Corn Coch
golyguDefnyddiwyd llun o Siôn Corn gan y cwmni yn ystod gaeafau 1930au.[1][2] Credir i hyn gael dylanwad mawr ar ddiwylliant America, gan helpu creu'r ddelwedd o Siôn Corn sy'n adnabyddus i ni heddiw. Yn ystod y 1980au a'r 1990au, ymddangosodd y Siôn Corn Coch unwaith eto ar hysbysebion teledu Nadolig Coca Cola.
Cynwysyddion
golyguEnw | Lansiwyd | Daeth i ben | Nodyn neu ddau | Llun |
---|---|---|---|---|
Coca-Cola | 1886 | Y fersiwn wreiddiol o Coca-Cola. | ||
Caffeine-Free Coca-Cola | 1983 | Coca-Cola heb gaffin. | ||
Coca-Cola Cherry | 1985 | Ar gael yn Canada o 1996. Galwyd ef yn "Cherry Coca-Cola (Cherry Coke)" yng Ngogledd America hyd at 2006. | ||
New Coke/"Coca-Cola II" | 1985 | 2002 | Ar gael yn Yap ac Samoa Americanaidd | |
Coca-Cola with Lemon | 2001 | 2005 | Ar gael yn y rhan fwyaf o wledydd | |
Coca-Cola Vanilla | 2002; 2007 | 2005; | Ar gael yn: Awstralia, Tsieina, Ostria, yr Almaen, Seland Newydd, Sweden, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Cafodd ei ail gyflwyno ym Mehgefin 2007 oherwydd pwysau gan y cwsmer. | |
Coca-Cola with Lime | 2005 | Ar gael yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, Singapor, Canada, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. | ||
Coca-Cola Raspberry | Mehefin 2005 | Diwedd 2005 | Cyflwynwyd i Seland Newydd yn unig, i gychwyn. Bellach ar gael yn yr Unol Daleithiau ers 2009. | |
Coca-Cola Black Cherry Vanilla | 2006 | Canol 2007 | Disodlwyd gan Vanilla Coke ym Mehefin 2007 | |
Coca-Cola Blāk | 2006 | Cychwyn 2008 | Dim ond ar gael yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Canada, y Wladwriaeth Czeck, Bosnia a Herzegovina, Bwlgaria a Lithuania | |
Coca-Cola Citra | 2006 | Ar gael yn Bosnia a Herzegovina, Seland Newydd a Japan. | ||
Coca-Cola Orange | 2007 | Ar gael yn y DU a Gibraltar am gyfnod byr. Caiff ei werthu yn yr Almaen, Awstria a'r Swistir gyda'r label Mezzo Mix. Ar gael yn yr Unol Daleithiau ers 2009. |
Brandiau eraill
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Barbara Mikkelson and David P. Mikkelson, "The Claus That Refreshes," snopes.com, Chwefror 27, 2001 . Adalwyd Mehf. 10, 2005. Nodyn:WebCite
- ↑ See George McKay 'Consumption, Coca-colonisation, cultural resistance—and Santa Claus', in Sheila Whiteley, ed. (2008) Christmas, Ideology and Popular Culture. Edinburgh University Press, tud. 50–70.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Prif wefan y cwmni