Coch Du ac Anwybodus


Cyfieithiad Cymraeg Gareth Miles o ddrama lwyfan Edward Bond, Red Black and Ignorant, yw Coch Du ac Anwybodus. Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Powys yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru De Powys ym 1993. Rhyfel Niwclear yw'r thema, ac mae'r ddrama wreiddiol yn rhan o drioled gan Bond o ddechrau'r 1980au, sy'n cael eu galw'n The War Plays.[1] Ni chafodd y ddrama ei chyhoeddi hyd yma.

Coch Du ac Anwybodus
Enghraifft o'r canlynoldrama lwyfan
Dyddiad cynharaf1985
AwdurCyfieithiad Gareth Miles o ddrama Edward Bond
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
IaithCymraeg
Cysylltir gydaTheatr Powys
Pwncrhyfel Niwclear
Mathdrama lwyfan

Disgrifiad byr

golygu

Mae'r ddrama yn adrodd hanes bywyd dyn, na chafodd gyfle erioed i fyw. Mae'n cael ei gyflwyno fel yr Anghenfil golosgedig du, wedi'i eni i ffwrnais rhyfel. Mae’r ddrama’n delio gyda themâu o gydymffurfio, moesoldeb cymdeithasol a gwrthdaro cronig rhwng unigolyn a chymdeithas, gan golli dim o’i berthnasedd gydag amser.[2]

Cafodd y ddrama ei chyflwyno ym 1993 fel "cynhyrchiad cynhyrfus o ddrama wleidyddol gan un o ddramodwyr mwyaf poblogaidd Ewrop", gyda dyfynaid o'r ddrama Gymraeg ar y daflen marchnata:

"Ac yn awr dangosir ichi olygfeydd o'r bywyd na wnes i mo'i fyw. Os tybiwch na fyddai bodau dynol yn caniatau i'r fath bethau ddigwydd, ni ddarllenasoch hanes eich amseroedd."[1]

"Mae'r ddrama yn ymateb nerthol a didwyll i Nineteen Eighty-Four gan George Orwell. Drama berthnasol sy'n codi cwestiynau amdanom ni a'n cymdeithas. Drama i gythruddo ac i ddychryn dinasyddion yr Oes Niwclear."[1]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Powys yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru De Powys ym 1993, cyn mynd ar daith o gwmpas Cymru. Cyfarwyddydd Menna Price; cynllunydd Christine Marfleet; cast :


Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Theatr Powys (1993). Taflen hysbysebu Coch Du ac Anwybodus.
  2. "Red Black and Ignorant by Edward Bond". Maja Milatovic-Ovadia (yn Saesneg). 2011-04-19. Cyrchwyd 2024-09-24.