The War Plays
AwdurEdward Bond
Perfformiad cyntaf1985
Iaith gwreiddiolSaesneg
TestynRhyfel Niwcliar
Genredrama lwyfan

The War Plays (a gyfeirir atynt weithiau fel The War Trilogy) yw'r enw a roddir yn aml ar drioleg o ddramâu gan y dramodydd Saesneg Edward Bond: Red Black and Ignorant, The Tin Can People, a Great Peace a gyhoeddwyd ym 1985.

Derbyniad

golygu

Nododd y cyfarwyddwr theatr Max Stafford-Clark fod Bond, gyda chynhyrchiad y Barbican o The War Plays, wedi "bychanu cast talentog o actorion i fod yn siambyls drwsgwl ac anghydlynol o gleifion ar gerdded. Edward Bond yw'r person mwyaf anodd imi gyd weithio ag ef mewn 40 mlynedd."[1] Ym 1996, disgrifiodd yr awdur Janelle G. Reinelt y derbyniad Saesneg fel un "oeraidd". [2] Dywedodd yr awdur Michael Mangan fod y perfformiad ym 1995 yn yr Odéon-Théâtre de l'Europe yn eithaf llwyddiannus, a bod y gwaith yn Ffrainc "wedi'i ddisgrifio fel y ddrama bwysicaf a ysgrifennwyd ers yr Ail Ryfel Byd." [3]

Tra bod Bond yn fwyaf adnabyddus am ei ddramâu yn yr 1960au a 1970au, cyfeiriodd Peter Billingham yn 2007 at The War Trilogy fel un o'i brif weithiau hwyrach (ynghyd a Restoration, Coffee, a Born ). [4] Cawsant eu rhestru ar y cyd gan Michael Billington fel enghreifftiau o bum gwaith mwyaf y ddrama dystopaidd. Fe'u galwodd yn "anesmwyth o ddystopaidd ac yn rhy bwysig i'w hanwybyddu." [5] Mewn thesis yn 2018, rhestrodd Chien-Cheng Chen y drioleg fel uchafbwynt ymhlith y dramâu Prydeinig cyfoes yr oedd wedi’u darllen, a chanmolodd “ei ddefnydd amlbwrpas o ffurfiau dramatig a’i archwiliad dwys o amodau dynol modern.”

Yn The Performance of Power (1991), cymharodd Reinelt y drioleg yn ffafriol â gweithiau eraill o theatr gyfoes Brydeinig sy'n cynnwys elfennau iwtopaidd, gan ddweud bod "y cyfuniad o faterion sosialaidd a ffeministaidd a godwyd yn [...] The War Plays yn ymdrin yn ddychmygus gyda'r dasg o genhedlu ac ymgorffori realiti amgen [...] [a bod y dramâu] yn mynd i'r afael â materion pwysig yn ymwneud â chymdeithasoli rolau teuluol". "They deconstruct the notion of 'natural' mother, with its associations of an instinctual bond between mother and child based on birthing, and replace it with a notion of community nurturing".[6]

Cyhuddodd Keith Colquhoun y dramâu o fod yn "ddiymatregol eu naws".[7] Mewn thesis yn 2010, beirniadodd Frank A. Torma “Ymgais Bond yn ei weithiau epig, fel The War Plays a Human Cannon, o roi barddoniaeth i'r cymeriadau i'w datgan yn uniongyrchol i'r gynulleidfa. Nid yw llais barddonol Bond yn unigryw ac o ganlyniad, mae'r mewnosod yn effeithio'n negyddol ar lif y ddrama.” Ar ôl gweld perfformiad 2010 o Red Black and Ignorant a gyfarwyddwyd gan Maja Milatovic-Ovadia, ysgrifennodd Ian Shuttleworth o'r Financial Times, "Mae Bond yn dangos ei sgil o farddoniaeth 'flinty', gan gynnyws elfennau dybryd o agitprop, hyd yn oed pan fo'r ysgrifennu'n teimlo'n broffwydol, cawn yr argraff bod proffwydoliaeth Cassandra, yn annog gwaradwydd yn hytrach nag ystyriaeth." [8]

Cyfieithiadau Cymraeg

golygu

Cyfieithodd Gareth Miles y ddrama Red Black and Ignorant i'r Gymraeg ar gyfer Theatr Powys i'w llwyfannu gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelwedd 1993 o dan yr enw Coch Du ac Anwybodus.[9] Ni chafodd y cyfieithiad ei chyhoeddi hyd yma.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Stafford-Clark, Max (2008-01-09). "Letters: Why I fell out with Edward Bond". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-07-01.
  2. Reinelt, Janelle G. (1996). After Brecht: British Epic Theater (yn Saesneg). University of Michigan Press. t. 50. ISBN 978-0-472-08408-1.
  3. Saunders, Graham (2004). "Edward Bond & the celebrity of exile". Theatre Research International (Cambridge University Press) 29 (3): 256–266. doi:10.1017/S0307883304000665. http://centaur.reading.ac.uk/31332/2/31332EDWARD%20BOND%20AND%20THE%20CELEBRITY%20OF%20EXILE.pdf.
  4. Bond, Edward; Billingham, Peter (2007). "Drama and the Human: Reflections at the Start of a Millennium". PAJ: A Journal of Performance and Art 29 (3): 1–14. doi:10.1162/pajj.2007.29.3.1. ISSN 1520-281X. JSTOR 30131055. https://www.jstor.org/stable/30131055.
  5. Billington, Michael (2014-02-19). "Never mind 1984: Michael Billington's top five theatrical dystopias". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2021-03-30.
  6. Case, Sue-Ellen; Reinelt, Janelle G. (1991). "Theorizing Utopia: Edward Bond's War Plays". The Performance of Power: Theatrical Discourse and Politics. University of Iowa Press. tt. 221–223. ISBN 9781587290343.
  7. Nodyn:Cite thesis
  8. Shuttleworth, Ian (2010-11-04). "There Will Be More/Red, Black and Ignorant, Cock Tavern, London". Financial Times. Cyrchwyd 2020-07-20.
  9. Theatr Powys (1993). Taflen hysbysebu Coch Da ac Anwybodus.