Nineteen Eighty-Four
Nofel am fyd dystopig gan George Orwell yw Nineteen Eighty-Four. Wedi ei ysgrifennu yn 1948 a'i chyhoeddi yn yr un flwyddyn, mae’r llyfr yn enwog trwy’r byd. Mae'r stori yn canolbwynto ar gymeriad o'r enw Winston, sydd yn gweithio yng Ngweinyddiaeth y Gwir (Saesneg: Ministry of Truth), a'i gyfataliad gan senedd dotalitaraidd gwlad Oceana, lle mae o’n byw. Mae effaith y llyfr yn amlwg ar yr iaith Saesneg. Mae'r ansoddair "Orwellian" yn cael ei ddefnyddio yn llawer ynglŷn â diogelwch y wlad a phreifatrwydd personol. Hefyd, mae'r geiriau "Big Brother is watching you" yn cael eu defnyddio gan bobol lle bynnag y siaredir Saesneg. Fel Brave New World gan Aldous Huxley, mae Nineteen Eighty-Four wedi cael ei weld fel llyfr gwahanol a pheryglus i ddiogelwch gwladwriaethau. Am y rheswm hwnnw, mae'r llyfr wedi cael ei wahardd mewn sawl gwlad.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | George Orwell |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg, Newspeak |
Dyddiad cyhoeddi | 1949 |
Dechrau/Sefydlu | 1948 |
Genre | ffuglen wyddonol am gymdeithas, ffuglen wleidyddol, gwyddonias, ffuglen ddystopaidd |
Rhagflaenwyd gan | Animal Farm |
Cymeriadau | Winston Smith, Julia, Big Brother, O'Brien, Emmanuel Goldstein |
Prif bwnc | gwyliadwraeth gorfodol gan y wladwriaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl, totalitariaeth |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint, dan hawlfraint, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Llundain, Oceania |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |