Codi pwysau yng Nghymru

Dechreuodd codi pwysau fel mabolgamp boblogaidd yng Nghymru pan ffurfiwyd Cymdeithas Amatur Codi Pwysau Cymru ym 1927 wedi i'r Almaenwr Hermann Görner ymddangos yn Neuadd y Farchnad, Llanelli.[1] Newidiodd y Gymdeithas ei henw yn hwyrach i Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru.

Mae Cymru wedi ennill 18 medal aur, 12 medal arian ac 20 medal efydd mewn cystadlaethau codi pwysau yng Ngemau'r Gymanwlad,[2] mwy o fedalau i Gymru na mewn unrhyw gamp arall.[1]

Ymhlith codwyr pwysau enwog o Gymru mae David Morgan, Michaela Breeze, Mel Barnett a'r codwr pŵer Chris Jenkins.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 177 [CODI PWYSAU].
  2. (Saesneg) Wales - Medals Tally by Sports. Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad. Adalwyd ar 27 Medi 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am godi pwysau neu gorfflunio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.