Dave Morgan (codwr pwysau)
Codwr pwysau o Gymru yw Dave Morgan (ganwyd 1964).
Dave Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 30 Medi 1964 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | codwr pwysau |
Taldra | 172 centimetr |
Pwysau | 82 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon |
Enillodd bencampwriaeth o dan-16 Prydain ym 1979. Yn 17 oed, daeth yn bencampwr codi pwysau ieuengaf erioed Gemau'r Gymanwlad ym 1982 yn Brisbane. Cododd 132.5 kg yn y cipiad a 162.5 kg yn y glanhau a plycio yn y dosbarth pwysau ysgafn (67.5 kg), gan orchfygu'r cyn-bencampwr Basil (Bill) Stellios o Awstralia. Morgan yw'r unig gystadlydd sydd wedi ennill medalau mewn chwe Gemau'r Gymanwlad, gyda buddugoliaethau ym 1982, 1986, 1990, 1994, 1998, a 2002. Enillodd ddau fedal aur ac un arian yn 2002 ym Manceinion (gyda 145 kg yn y cipiad a 160 kg yn y glanhau a plycio), tri medal arian oedd ganddo i gychwyn ond dyrchafwyd dau o'r rhain i aur wedi i Satheesha Rai gael ei anghymwyso am roi prawf cyffuriau positif.[1][2] Daeth hyn a chyfanswm medalau Gemau'r Gymanwlad ei yrfa i ddeuddeg (naw aur a thri arian).
Cwblhaodd Morgan ei gipiad gorau ym Mhencampwriaethau Iau y Byd 1984, gan godi 150 kg a enillodd y fedal aur yn y dosbarth 75 kg. Aeth ymlaen i orffen yn ail gyda chodiad o 180 kg yn y glanhau a phlycio. Dyma oedd y tro cyntaf mewn 27 mlynedd i godwr pwysau Prydeinig ennill medal aur mewn pencampwriaeth y byd.
Gorffennodd Morgan yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd 1984. Yng Ngemau Olympaidd 1988 yn Seoul, cystadlodd Morgan yn y dosbarth 82.5 kg gan orffen yn bedwerydd unwaith eto gan godi 365 kg.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Morgan's golden bonus. BBC (22 Awst 2002).
- ↑ Another Gold for Australia. Queensland Weightlifting Association (2 Awst 2002).
- ↑ THE XXIVth SUMMER GAMES: WEIGHTLIFTING.