Coed-yr-iarll, Sir Fynwy

pentref yn Sir Fynwy

Pentref yng nghymuned Drenewydd Gelli-farch, Sir Fynwy, Cymru, yw Coed-yr-iarll[1] (Saesneg: Earlswood).[2] Mae wedi'i leoli 5 milltir i'r gogledd-orllewin o Gas-gwent, ac i'r dwyrain o ardal goediog Coed Gwent.

Coed-yr-iarll
Capel Methodistaidd Cwm Coed-yr-iarll
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6615°N 2.8043°W Edit this on Wikidata
Cod OSST441961 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Cyn y goresgyniad Normanaidd yng Nghymru, roedd yr ardal dan goed. Ar adeg Llyfr Dydd y Farn, roedd yn rhan o ystadau Durand, Siryf Caerloyw. Aeth ef a'i ddisgynyddion ati i glirio'r coed, gan sefydlu pentref Drenewydd Gelli-farch (Shirenewton, neu "Sheriff's Newton", yn Saesneg). Yn ddiweddarach yn y 12g roedd Milo FitzWalter (Miles o Gaerloyw, Iarll 1af Henffordd) yn Siryf, a datblygodd yr enw "Coed-yr-iarll".

Y pentref heddiw

golygu

Heddiw mae gan y pentref ganolfan gymunedol fawr a adeiladwyd gyda chyfraniadau gan y cyhoedd, er cof am drigolion o'r plwyf a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Hydref 2021