Ardal o fryniau coediog yng Ngwent, de-ddwyrain Cymru yw Coed Gwent (Saesneg: Wentwood). Saif rhan o'r ardal yn Sir Fynwy a rhan yn ardal cyngor dinas Casnewydd. Mae'r copa uchaf yn cyrraedd 309 medr; y pwynt uchaf yn ardal Casnewydd.

Coed Gwent
Wentwood.jpg
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr309 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6319°N 2.8277°W Edit this on Wikidata
Amlygrwydd243 metr Edit this on Wikidata

Saif Coed Gwent i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Casnewydd. Yma y ceir y darn mwyaf o hen goedwig sy'n weddill yng Nghymru, gweddillion yr hun oedd unwaith yn goedwig lawr mwy, yn ymestyn o afon Wysg i afon Gwy. Yn y Canol Oesoedd roedd yn rhannu Gwent yn ddwy ran: Gwent Uwch Coed a Gwent Is Coed.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 309 metr (1014 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefydGolygu

Dolennau allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato