Coeden Jesse
Mae Coeden Jesse (hefyd Pren Jesse) yn fotiff cyffredin mewn eiconograffeg Gristnogol rhwng y 12fed a'r 15fed ganrif. Mae'n cynrychioli llinach rhwng Jesse, tad y Brenin Dafydd, ac Iesu Grist fel y mae'n ymddangos yn yr Ysgrythur.
Enghraifft o'r canlynol | thema mewn celf |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae darluniau o Goeden Jesse yn seiliedig ar adnod Eseia 11:1 yn y beibl:
- "Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef."[1]
Yn ffurf fwyaf nodweddiadol y ddelwedd mae Jesse yn gorwedd neu'n cysgu wrth y gwaelod. O'i ystlys y mae boncyff coeden neu winwydden yn esgyn, ei changhennau yn troelli ar bob ochr. Ar y canghennau mae ffigurau sy'n cynrychioli hynafiaid Iesu. Mae'r boncyff fel arfer yn esgyn yn unionsyth i'r Forwyn Fair ac yna Iesu ar y brig. Mae nifer y ffigurau eraill a ddarlunnir yn amrywio'n fawr, yn dibynnu ar faint o le sydd ar gael ar gyfer y dyluniad. Ar brydiau mae pob un o'r 43 cenhedlaeth rhwng Jesse a Iesu sy'n cael eu rhestru yn yr Efengyl yn ôl Luc yn cael eu darlunio, ond fel arfer mae'r detholiad yn llawer llai. Mae Dafydd a Solomon fel arfer yn cael eu cynnwys.
Gall y ddelwedd ymddangos mewn sawl cyfrwng, megis llun mewn llawysgrif goliwiedig, murlun, cerflun, neu ffenestr liw.
Llyfryddiaeth
golygu- Arthur Watson, The Early Iconography of the Tree of Jesse (Llundain: Oxford University Press, 1934)
- Étienne Madranges, L'Arbre de Jessé, de la racine à l'ésprit (Paris: Bibliothèque des Introuvables, 2007)
- Susan L. Green, Tree of Jesse Iconography in Northern Europe in the Fifteenth and Sixteenth Centuries (Efrog Newydd: Routledge, 2019)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bible Gateway passage: Eseia 11 - Beibl William Morgan". Bible Gateway (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-17.
Oriel
golygu-
Cerfiad derw mawr o Jesse ym Mhriordy y Fenni sy'n dyddio o'r 15fed ganrif a fu ar un adeg yn sylfaen Coeden Jesse fawr iawn
-
Ffenestr liw yn eglwys Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch (1533)
-
Murlun yn Eglwys Gadeiriol Limburg, yr Almaen
-
Basgerfiad derw (17g) o Gastell St Andrews, yr Alban
-
Sgrin côr o waith metel yn Eglwys Gadeiriol Sevilla
-
Blaenlythyren oliwiedig yn Sallwyr Isabelle o Ffrainc (tua 1305; Bayerische Staatsbibliothek Cod. Gall. 16 fol.7v)