Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch; cyfeirir ato'n aml fel Llanrhaeadr yn unig. Saif ger y briffordd A525 rhwng Dinbych a Rhuthun. Ceir yno dafarn, fynnon nodedig, nifer o elusendai o'r cyfnod Sioraidd a chrochendy yn yr hen efail. Yr un 'meirch' (ll. march) sydd yn yr enw ac sydd yn Nhremeirchion gerllaw.

Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,038, 1,035 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,433.5 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1605°N 3.3755°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000167 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Dyfnog neu Defynog, ac ystyrir hi yn un o eglwysi canoloesol pwysicaf Cymru. Disgrifiwyd ffenestr Coeden Jesse fawr yr eglwys fel "y ffenestr wydr orau yng Nghymru". Gerllaw mae Ffynnon Sanctaidd Sant Dyfnog, oedd yn arfer bod yn gyrchfan boblogaidd i rai'n dymuno iachad.

Mae yma ysgol gynradd mewn adeilad gymharol fodern, tŷ bwyta a thafarn o'r enw'r 'King's Head' yng nghanol y pentref.

Canol Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Claire Hughes (Llafur).[2]

Egwlys Dyfnog Sant

golygu

Credir bod eglwys wedi sefydlu ger Ffynnon Ddyfnog ers y 6ed ganrif, a cheir cyfeiriadau at egwlys yn Llanrhaeadr yn Norwich Taxatio yn 1254 a Lincoln Taxatio 1291. Rhan hynaf o'r eglwys yw'r tŵr, sy'n dyddio o'r 13eg ganrif. Mae'r adeilad yn dilyn patrwm eglwys ddwbl - eglwys gyda dau eil - sy'n ddyluniad cyffredin yn y rhan hwb o Gymru, a godwyd yn y 15eg ganrig. Adferwyd yr eglwys yn sylweddol 1879-1880. Yn ôl William Myddleton, bardd o'r 17eg ganrif "Ffynnon Ddyfnog, ffein iawn ddefnydd.".

Y nodwedd fwyaf trawiadol yw Ffenest Jesse, a osodwyd yn ochr ddwyreiniol yr eglwys yn 1533. Mae Ffenest Jesse yn un ddarlun mawr, sy'n adrodd dyrchafiad Iesu Grist trwy Tŷ Brenhinol Israel - llinach Dafydd, a oedd yn fab i Jesse.

Ar waelod y darlun, mae Jesse yn gorwedd yn ei ôl ar sedd neu wely ysblennydd, wedi ei amgylchynu a mur isel. Uwchben, mae ei fab Brenin Dafydd yn dal telyn yn ei law chwith. I'r dde o Dafydd mae ei fab Brenin Solomon - mae ganddo Deml bach - i'r chwith o Dafydd mae ei ŵyr Brenin Rehoboam. Mae'r tri brenin gyda barf ac yn gwisgo ffwr carlwm. Ar frig y ffenest mae'r Arglwydd, mewn golau, ym mreichiau Ei fam, Mair. Yn ogystal, mae'r darlun yn cynnwys y proffwydi Eseia, Sechareia, Joel a Obadeia. Yn naill cornel gwaelod mae Moses a Zadoc, oherwydd eu pwysigrwydd yn hanes Iddewiaeth ac oherwydd yr oeddent wedi rhagwled dyfodiad Crist. Ceir enwau'r proffwydi mewn lladin e.e. Moysen am Moses.

"Yna y daw allan wïalen o gyff Jesse; a Blaguryn a dŷf o'i wraidd ef." Esaiah XI, I "Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i'r bobloedd: âg ef yr ymgais y cenhedloedd: a'i orphwysfa fydd yn ogoniant." Esaiah XI, X

Adeg y Rhyfel Cartref, yn 1642, tynnwyd y ffenest o'r eglwys, a'i guddio. Yr oedd y Seneddwyr yn arfer dinistrio ffenestri lliwgar. Yn ôl sôn, cafodd ei roi mewn cist o dderw, a'i guddio unai yny fynwent neu mewn coedwig gerllaw. Yn 'Dyddiadur y Gororau o'r Fyddin Brenhinol adeg y Rhyfel Cartref', gan Symond, cyfeirir at ffenest dwyreiniol arall yn yr eglwys - mae'n debyg y cafodd hwn ei ddinistrio. Gosodwyd y ffenest yn ôl yn ei le gydag Adferiad y Teulu Brenhinol yn 1661. Rhwng 1939 a 1945, cafodd ei orchuddio a'i amddiffyn gyda sachau tywod, i'w ddiogelu rhag unrhyw ddifrod bomio.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch (pob oed) (1,038)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch) (514)
  
51.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch) (724)
  
69.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch) (147)
  
34.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.