Coedwig Bwlch Nant yr Arian

Coedwig a chanolfan antur awyr agored a bwydo barcud coch ger Aberystwyth

Mae Coedwig Bwlch Nant yr Arian yn ganolfan natur ac awyr agored sy'n enwog am ei hamserlen bwydo barcutiaid coch sydd yn atyniad i ymwelwyr. Mae'n cynnwys sawl llwybr cerdded, beicio mynydd a marchogaeth yn ogystal â chaffi a manau chwarae antur.[1] Ers 2020 bu'n rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.[2]

Coedwig Bwlch Nant yr Arian
Mathnature center, hiking trail Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMelindwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4111°N 3.8711°W Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad golygu

 
Arwyddbost Bwlch Nant yr Arian (2015)
 
Barcud coch un o nodweddion enwog y safle yw iddi fod yn sbardun ar gyfer ailgyflwyno'r barcutiaid i'r ardal. Ceir sesiynau bwydo'r adar yn ddyddiol sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr
 
Y llyn i'r dwyrain o'r ganolfan groeso gyda barcutiaid yn hedfan
 
Yr olygfa tua'r gorllewin ac Aberystwyth Bae Ceredigion dros Gwm Melindwr gyda'i dyffryn siap u-bedol

Lleolir canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian 9 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar hyd y briffordd, A44. Mae'r canolfan ar gopa garth sy'n edrych lawr tua'r gorllewin dros Cwm Melindwr a thuag at Bae Ceredigion. Gan deithio o'r gorllewin o Aberystwyth, mae Bwlch Nant yr Arian yn gweithredu fel porth i fynyddoedd Pumlumon.[1] Mae'n ffinio â chymuned Trefeurig.

Bwydo Barcutiaid Coch golygu

Mae'r ganolfan yn enwog am ei barcutiaid cochion. Ym 1999, daeth Bwlch Nant yr Arian yn orsaf bwydo barcutiaid cochion fel rhan o raglen i warchod y nifer bach o farcudiaid oedd yn yr ardal (a Chymru) bryd hynny.

Caiff y barcutiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian yn ddyddiol am 2.00pm yn y gaeaf a 3.00pm yn yr haf.

Gellir gweld cynifer â 150 o farcudiaid yn dod i mewn i gael eu bwydo ‒ mae mwy ohonyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf fel arfer.[1]

Hamdden golygu

Llwybrau cerdded golygu

Ceir sawl llwybr cerdded yn rhan o'r goedwig:

  • Llwybr y Barcud - hyd ¾ milltir, 1.3km. Mae Llwybr y Barcud yn arwain o amgylch ymyl y llyn, lle caiff y barcudiaid cochion eu bwydo bob dydd. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Ar hyd y llwybr ceir cerfluniau o anifeiliaid pren i adlewyrchu bywyd natur yr ardal.
  • Llwbyr y Mwynwyr - hyd 1½ milltir/2.3km, mae Llwybr y Mwynwyr yn troelli ar hyd pen y cwm, gan ddilyn ffrwd a arferai gludo dŵr i bweru mwyngloddiau plwm. Ar gopa'r llwybr ceir cerflun 'Gadair y Cawr' sy’n lle gwych i edrych ar yr olygfa. O’r fan yma ewch i lawr ar ardal sydd wedi cael ei phlannu’n ddiweddar â 12,000 o goed brodorol.
  • Llwybr y Grib - hyd 2½ milltir/4.1km, ceir golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Elenydd.[1]

Beicio Mynydd golygu

Ceir sawl llwybr, ac mae adnodd beicio mynydd yn rhan o apêl y ganolfan a'r goedwig i dwristiaid ac yn rhan o strategaeth bwrpasol marchnata Cymru gan Croeso Cymru.[3]

  • Llwybr Arian - hyd 7.9km, cyfanswm y dringo: 160 medr (graddiant mwyaf: 12%). Mae’r Llwybr Arian yn eich arwain at lyn Blaenmelindwr.
  • Llwybr Melindwr- hyd oddeutu 5km gyda graddiant dringo o 110m.
  • Llyn Pendam - hyd 10.2km, dringfa 220m. Mae Llwybr Pendam yn cyfuno rhannau o Lwybrau Summit a Syfydrin.
  • Llwybr Summit - hyd 18.5km, dringfa 515m.
  • Llwybr Syfydrin - hyd 36km gyda dringfa 670m.[1]

Llwybrau rhedeg golygu

Ceir dau lwybr rhedeg pwrpasol. Enwyd llwybrau Y Fuwch a’r Llo ar ôl pâr o feini hirion trawiadol yn yr ardal sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd.

  • Y Llo - hyd 3 milltir, 4.9km, cymhedrol.
  • Y Fuwch - 6½ milltir, 10.5 cilometr, anodd. [1]

Llwybr Marchogaeth golygu

Ceir llwybr benodol ar gyfer marchogaeth.

  • Llwybr Mynydd March - hyd 6½ milltir, 10.7km. Mae’r llwybr wedi ei arwyddo ac sydd wedi ei enwi ar ôl bryn lleol (Mynydd March). Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Phumlumon Fawr, mynydd uchaf y Canolbarth.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 5 Mai 2023.
  2. "Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
  3. "Bwlch Nant yr Arian". Mountain Bike Wales. Cyrchwyd 5 Mai 2023.

Dolenni allanol golygu