Coedwig yr Iwerydd
Rhanbarth coediog enfawr ac ecolegol amryfath yn Ne America yw Coedwig yr Iwerydd (Portiwgaleg: Mata Atlântica) a estynnir ar hyd arfordir deheuol Brasil â Chefnfor yr Iwerydd, o dalaith Rio Grande do Norte yn y gogledd i Rio Grande do Sul yn y de, ac i mewn i'r tir hyd at Baragwâi. Mae'n cynnwys sawl bïom ac yn gartref i fioamrywiaeth ar raddfa eang.
Llun loeren o Dde America gyda ffiniau Coedwig yr Iwerydd yn ôl diffiniad yr WWF yn felyn. | |
Math | bïom |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cefnfor yr Iwerydd |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Brasil, yr Ariannin, Paragwâi |
Arwynebedd | 1,234,000 km² |
Cyfesurynnau | 16.5°S 39.25°W |
Mae mathau o ecosystemau Coedwig yr Iwerydd yn cynnwys coedwigoedd trofannol llydanddail tymhorol a sych, glaswelltiroedd trofannol ac is-drofannol, safanâu a phrysglwyndiroedd, a fforestydd mangrof.[1] Nodweddir y goedwig gan fioamrywiaeth uchel a nifer o rywogaethau endemig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dafonseca, G. 1985. The Vanishing Brazilian Atlantic Forest. Biological Conservation 34:17-34.
Darllen pellach
golygu- Marcia C. M. Marques a Carlos E. V. Grelle (goln), The Atlantic Forest: History, Biodiversity, Threats and Opportunities of the Mega-diverse Forest (Springer, 2021).