Coelbren y Beirdd

gwyddor a ddyfeisiwyd gan Iolo Morgannwg

System ysgrifennu a luniwyd gan Iolo Morganwg ar ddiwedd y 18g yw Coelbren y Beirdd.

"Hu Gadarn yn Arwain y Cymry i Ynys Prydain" (o faner tudalen blaen Y Celt, cylchgrawn o'r 1880au). Mae'r teitl yn llythrennau Coelbren y Beirdd.

Yn ôl Iolo, dyma'r wyddor hynafol a ddefnyddid gan yr hen Gymry a'r Brythoniaid. Honnai iddynt eu hetifeddu gan y Derwyddon. Mae'r ymadrodd "naddu gwawd" (gwawd="barddoniaeth, cân") yn drosiad a geir yn aml yng ngwaith y beirdd canoloesol o gyfnod y Gogynfeirdd ymlaen. Ysbrydolwyd Iolo gan hyn i gredu fod y beirdd a dysgedigion yr hen Gymry yn cofnodi eu cerddi a'u gwybodaeth mewn llyfrau pren â'r geiriau wedi'u "naddu" ynddynt: dyma'r "Beithynen".

Bu peth amheuaeth am honiad Iolo ar y dechrau, ond yn 1840, ar ôl marwolaeth Iolo, cyhoeddodd ei fab Taliesin y llyfr Traethawd ar Awdurdodaeth Coelbren y Beirdd a chafodd y Goelbren ei derbyn gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Fe'i gwelir hyd heddiw ar gadeiriau eisteddfodol.

Gwyddys erbyn heddiw nad oes sail hanesyddol o gwbl i'r Goelbren a'i bod yn ffrwyth dychymyg toreithiog Iolo.

Cyfeiriadau golygu

  • G. J. Williams, Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956).
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.