Coron yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn un o ddwy brif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoniaeth. Y Gadair yw'r llall. Mae'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar ddydd Llun yr Eisteddfod gyda'r Orsedd yn bresennol ar y llwyfan. Dyfernir y goron am bryddest (cerdd hir) neu ddilyniant o gerddi yn y mesurau rhydd neu'r wers rydd.