Arwr Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg Iolo Morgannwg yn bennaf, yw Hu Gadarn.[1]

"Hu Gadarn yn Arwain y Cymry i Ynys Prydain" (o faner tudalen blaen Y Celt, cylchgrawn o'r 1880au) yn llythrennau Coelbren y Beirdd, un arall o luniadau Iolo Morgannwg.

Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o Drioedd Ynys Prydain, sef 'Trioedd Beirdd Ynys Prydain' (a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales), fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar ddiwylliant y Cymry, yn fath o hynefydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo, arweiniodd Hu y Cymry i Ynys Prydain o Ddeffrobani (enw canoloesol ar Sri Lanca a fenthycwyd gan Iolo). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal â chrefft Cerdd Dafod er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu.

Ymddengys fod Iolo wedi benthyg cymeriad Hu Gadarn o'r gerdd ganoloesol enwog "Cywydd y Llafurwr", gan Iolo Goch (tua 1320–1398). Yn y cywydd hwnnw mae Iolo Goch yn adrodd sut y bu rhaid i Hu Gadarn, oedd yn ymerawdwr Caergystennin (Constinobl), lywio aradr a bwydo ei hun o ffrwyth ei waith yn unig.

Hu Gadarn, feistr hoyw giwdawd,
Brenin a roes gwin er gwawd,
Ymherodr tir a moroedd,
Cwnstabl aur Constinobl oedd,
Daliodd ef wedi diliw
Aradr gwaisg arnoddgadr gwiw.[2]

Mae'r foeswers honno yn deillio o ffynhonnell Ffrangeg a gyfieithwyd i'r Gymraeg yn y 13g dan yr enw Campau Charlymaen; trosodd y cyfieithydd enw un o'r arwyr, Hugun le Fort fel "Hu Gadarn".

Ffugiodd Iolo Morgannwg draddodiad arall am Hu Gadarn yn defnyddio ei ychen bannog i dynnu'r afanc o'r llyn ac felly gwaredu Ynys Prydain o'r dylifiadau a achoswyd gan yr anghenfil chwedlonol honno.

Roedd llawer o bobl yn credu yn chwedl Hu Gadarn, sy'n ddeniadol, a cheir nifer o gyfeiriadau at Hu yn llenyddiaeth y 19g. Er bod rhai ysgolheigion yn amau dilysrwydd y traddodiad cyn hynny, bu rhaid aros tan yr 20g i brofi mai un arall o ffugiadau niferus Iolo Morgannwg oedd Hu Gadarn fel un o gyndeidiau chwedlonol y Cymry.

Neo-dderwyddiaeth golygu

Mewn Neo-dderwyddiaeth cyfeirir at Ddefrobani Iolo Morgannwg fel 'Atlantia' ac uniaethir Hu Gadarn â'r duw Celtaidd Esus. Llyncodd Robert Graves hanes Iolo yn gyfan, ac uniaethodd Hu Gadarn â duw corniog y Cymry yn y cyfnod Celtaidd.[3] Mae'r Israeliaid Prydeinig, sy'n credu bod hynafiaid pobl Prydain yn dod o Israel, yn uniaethu Hu â'r cymeriad Beiblaidd Joshua, tra bod eraill, gan ddilyn syniad ieithegol Iolo Morgannwg a fynegwyd ganddo yn ei lyfr Barddas, yn ei uniaethu â Iesu o Nasareth, dan yr enw "Hu-Hesus".

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. A. C. Rejhon, "Hu Gadarn: Folkore and Fabrication", yn Celtic Folkore and Christianity, gol. Patrick K. Ford (Santa Barbara, 1983), tt.201-12.
  2. Gwaith Iolo Goch, gol. Dafydd Johnston (Caerdydd, 1988), cerdd xxviii, llau. 63-8.
  3. Robert Graves, The White Goddess