Coetiau

gêm daflu

Gêm draddodiadol yw coetiau, coetennau neu goets a chwaraeir drwy daflu cylchoedd am bostyn neu bigyn.

Chwarae coetiau ym Merthyr Tudful (Ffotograff gan Geoff Charles, 1951)

Mae'n bosib bod y gêm yn dyddio'n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Yn yr Oesoedd Canol bu'r werin yn taflu pedolau am begiau haearn.[1]

Rhoddir yr enw Coetan Arthur ar sawl cromlech, er enghraifft Carreg Coetan Arthur, a gredir i'r Brenin Arthur eu ffurfio drwy daflu coetan enfawr arnynt.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Quoits. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Mai 2018.