Coetir Ysbryd Llynfi

Coetir ar gyrion tref Maesteg a blanwyd ar safle hen waith glo

Mae Coetir Ysbryd Llynfi (Saesneg: Spirit of Llynfi Woodland) yn goetir cymunedol yn ffinio â chymunedau Maesteg, Caerau a Nantyffyllon. Mae ar lethrau dwyreiniol Cwm Llynfi Uchaf, naw milltir i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr.

Coetir Ysbryd Llynfi
Enghraifft o'r canlynolcoedwig Edit this on Wikidata
Map
Tarddiadad yr Afon Llynfi yn ardal Coetir Ysbryd Llynfi

Cafodd y coetir ei sefydlu’n ddiweddar ar hen safle diwydiannol ac mae’r coetir cymunedol hwn yn cynnig man gwyrdd i bobl leol ag amrywiaeth o gyfleusterau. Plannwyd dros 60,000 o goed yma gan gynnwys cymysgedd o goed llydanddail, ffrwythau a choed addurniadol.

Mae’r dirwedd amrywiol yn cynnwys pyllau, corstir a rhostir, a golygfeydd godidog.[1]

Mae'r goedwig yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020.[2]

Bu'r coetir yn gartref i Bwll Glo Coegnant a Golchfa Maesteg. Datblygwyd y coetir gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar y cyd â thrigolion Cwm Llynfi Uchaf.

Mae’r prosiect hwn, a noddwyd gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Cwmni Ford Motor, yn cefnogi menter Llynfi 20 sydd â’r nod o wella iechyd a lles y bobl sy’n byw yn y cwm.[1]

Hamdden

golygu
 
Map yn dangos safleuoedd Coedwig Genedlaethol i Gymru y mae Coetir Ysbryd Llynfi yn rhan ohoni

Mae'r coetir wedi ei ddatblygu ar gyfer hamdden ac ymlacio.

Llwybrau rhedeg

golygu

Mae’r llwybrau Gelli Deg a’r Ffordd Haearn yn gofyn am lefel resymol o ffitrwydd. Mae’r llwybr Sialens Coegnant yn fwy addas i redwyr profiadol â lefel uchel o ffitrwyd. Mae'r llwybrau'n cael eu hyrwyddo'n benodol fel rhai da ar gyfer rhedwyr a phobl sydd â diddordeb rhedeg mewn coedwigoedd.[3][4]

  • Llwybr Gelli Deg - hyd 3km. Mae’r llwybr hwn yn cyfuno dringfeydd a disgynfeydd drwy’r goedwig a llwybr tonnog hwylus sy’n addas ar gyfer pob gallu. Mae’r llwybr yn cynnwys trac sengl byr 150 metr yn y pen uchaf ac yn gyflwyniad pleserus i redeg llwybrau yn Nyff­ryn Llynfi.
  • Y Ffordd Haearn - llwybr cylchol, 5km. Mae’r llwybr hwn yn cyfuno dringfeydd a disgynfeydd drwy’r goedwig a llwybr tonnog hwylus.
  • Sialens Coegnant - Gradd: Anodd, hyd 1km. Mae’r llwybr byr hwn yn estyniad i’r ddau lwybr arall. Gyda’i ddringfa a’i ddisgynfa serth, mae’r rhan goncrid hon o’r llwybr yn gyfle delfrydol i’r rhedwyr hynny sy’n chwilio am her ychwanegol.

Llwybr gweithgareddau cŵn

golygu

Mae’r llwybr gweithgareddau cŵn a ddatblygwyd gyda’r Kennel Club yn ffordd wych o gadw cŵn a’u perchnogion yn heini ac yn iach, a chael hwyl ar yr un pryd.

Mae pum gweithgaredd i ddewis o’u plith - o wau rhwng pyst pren i redeg drwy dwnnel, ac o neidio dros rwystrau i droedio’n ofalus dros y boncyff.

Llwybr Seiclo Sustrans

golygu

Mae Llwybr Cwm Llynfi yn llwybr Sustrans sy’n rhedeg drwy ran isaf y safle ac mae’n addas ar gyfer seiclwyr o bob gallu.[1]

Cerflun Ceidwad y Pyllau Glo

golygu

Mae Coetir Ysbryd Llynfi ar safle hen Bwll Glo Coegnant a Golchfa Maesteg.

Mae cerflun Ceidwad y Pyllau Glo yn gerflun derw sy’n dathlu bywydau’r cannoedd o lowyr a fu’n gweithio, ar un adeg, ledled Cwm Llynfi. Cyfansoddwyd cerdd gan Dan Lock and ar gyfer yr achlysur o'r enw Ceidwad y Pyllau Glo. Gellir ei fwynhau fel fideo ar sianel Youtube Cyfoeth Naturiol Cymru gyda preswylydd lleol, Siân Teisar, yn ei ddarllen.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Coetir Ysbryd Llynfi, ger Maesteg". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 10 Mai 2023.
  2. "Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 10 Mai 2023.
  3. "Rhedeg". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 10 Mai 2023.
  4. "Llwybrau Rhedeg Llyfni Running Trails" (PDF). Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 10 Mai 2023.
  5. "Ceidwad y Pyllau Glo / Keeper of the Collieries - Welsh". Sianel youtube Cyfoeth Naturiol Cymru. 2017. Cyrchwyd 10 Mai 2023.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato