Maesteg
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Maesteg. Mae Caerdydd 36.2 km i ffwrdd o Faesteg ac mae Llundain yn 246.2 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 21.2 km i'r gorllewin. Yn 2011 roedd ei phoblogaeth yn 17,580, o'i gymharu â 17,859 yn 2001. Mae ganddi arwynebedd o 2,721 ha ac yn cwmpasu rhan uchaf Afon Llyfni. Gellir olrhain twf Maesteg i'r gwaith haearn a thunplat treflannau fel Porth-cawl, Llynfi a Llwydarth.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 17,580, 17,048 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,720.58 ha |
Cyfesurynnau | 51.61°N 3.65°W |
Cod SYG | W04000640 |
Cod OS | SS855915 |
Cod post | CF34 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Huw Irranca-Davies (Llafur) |
AS/au y DU | Stephen Kinnock (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Huw Irranca-Davies (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[2]
Diwydiant
golyguAgorodd gwaith haearn ym Maesteg yn 1826 a chysylltwyd hi gyda Phorth-cawl drwy dramffordd geffylau. Yn 1837 agorwyd gwaith haearn Llynfi a gellir gweld olion y gwaith yno o hyd: adilad y chwyth-beiriant (neu fegin-beiriant), ffwrnais chwyth a rhesi tai'r gweithwyr haearn.
Yn Llwydarth, yn 1889, sefydlwyd gwaith tunplat. Cynrychiolchi Undeb Glowyr Maesteg wnaeth Vernon Hartshorn, a ddaeth yn aelod o gabinet y Blaid Lafur - y Cymro cyntaf i'w ethol i Cabinet Llafur. Rhwng y ddau ryfel; byd, daeth y Dirwasgiad Mawr - a effeithiodd yn sylweddol ar Faesteg a'r cyffiniau; gwelwyd gostyngiad yn y boblogaeth rhwng 1921 a 1931 o 24%.
Hamdden
golyguCeir Coetir Ysbryd Llynfi ar gyrion y dref sy'n ardal o goedwig ac hamdden gyda llwybrau cerdded, rhedeg a seiclo. Planwyd y coetir ar safle hen bwll glo Coegnant a Golchfa Maesteg.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Pobl o'r ardal
golygu- W. Beddoe Rees, pensaer
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan[dolen farw]
Trefi
Maesteg · Pen-coed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontycymer · Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bracla · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefncribwr · Cwmogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Gogledd Corneli · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynyddcynffig · Nant-y-moel · Notais · Pen-y-fai · Y Pîl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre