Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru

cofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd yng Nghaerdydd

Lleolir Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd. Mae'n coffa'r holl Gymry a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. [1]

Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru
Mathcofeb ryfel Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol12 Mehefin 1928 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Mehefin 1928 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadParc Cathays, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr13 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4864°N 3.1803°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes y gofeb golygu

Cynlluniwyd hi ym 1923 gan Ninian Comper ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ym 1928 gan Dywysog Cymru (yn hwyrach Edward VIII).[1]

Cofeb ydyw yn yr arddull glasurol, fel sawl adeilad arall yng nghanolfan ddinesig y brifddinas. Ysbrydolwyd Comper gan adfeilion o oes yr ymerawdwr Hadrian a welodd ar ei wyliau yng Ngogledd yr Affrig.[1] Cynlluniodd y gofeb ar ffurf colonâd cylchog gyda thri cyntedd a thrwy bob un o'r rhain gellir gweld cerflun un ai o forwr, milwr neu awyrennwr, ill dri yn dal coronbleth. Uwchben y rhain saif negeseuydd adeiniog noeth, yn dal cleddyf ar ben ei waered megis croes. Un morwr ifanc a'i ddewisiwyd gan y pensaer oedd y model ar gyfer y pedwar cerflun.[1]

Ceir arysgrifau ar y gofeb yn nhair iaith, Cymraeg, Saesneg a Lladin. Cyfansoddwyd yr arysgrifau Cymraeg gan y beirdd T. Gwynn Jones ac R. Williams Parry a'r arysgrif Saesneg gan Syr Henry Newbolt. Daw'r ymadrodd Lladin o ddigwyddiad adnabyddus yn hanes yr ymerodraeth Rufeinig; yn ôl y chwedl, tra'n ymladd ym mrwydr Pont Milvius cafodd Gystennin I weledigaeth o arwydd y Groes yn yr awyr a clywodd llais yn darogan, in hoc signo vinces ("gyda'r arwydd hyn cei orchfygu").

Arysgrifau
I FEIBION CYMRU A RODDES EU BYWYD DROS EI [sic] GWLAD YN RHYFEL MCMXIV – MCMXVIII Y ffrîs crwn (mewn tair rhan) ar y tu allan
DROS FOR FE DROES I FARW Y ffrîs ar y cyntedd uwchben y morwr
GER Y FFOS YN GORFFWYSO Y ffrîs ar y cyntedd uwchben y milwr
YN Y NWYFRE YN HOFRAN Y ffrîs ar y cyntedd uwchben yr awyrennwr
REMEMBER HERE IN PEACE THOSE WHO IN TUMULT OF WAR BY SEA, ON LAND, ON AIR, FOR US AND FOR OUR VICTORY ENDURETH UNTO DEATH Y ffrîs cylchog ar y tu mewn
IN HOC SIGNO VINCES Ffrîs y strwythur cylchog yng nghanol y gofeb

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Symondson, Anthony; Bucknall, Stephen (2006). Sir Ninian Comper: An introduction to his life and work with complete gazetteer. Reading: Spire Books. tt. 156–8

Dolenni allanol golygu