Robert Williams Parry

bardd a darlithydd prifysgol

Roedd Robert Williams Parry (6 Mawrth 18844 Ionawr 1956), a adwaenir fel R. Williams Parry yn un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr 20g.

Robert Williams Parry
Ganwyd6 Mawrth 1884 Edit this on Wikidata
Tal-y-sarn Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1956 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, athro, darlithydd Edit this on Wikidata
PriodMyfanwy Williams Parry Edit this on Wikidata

Magwraeth, coleg a dechrau dysgu

golygu

Ganed R. Williams Parry yn Nhalysarn, yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn gefnder i T. H. Parry-Williams a Thomas Parry. Cafodd ei addysg yn Ysgolion Sir Gaernarfon a Phen-y-groes. Bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth am ddwy flynedd, ond gadawodd heb raddio, ac aeth yn athro. Yn 1907 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor i orffen ei astudiaethau a graddiodd yn 1908. Ar ôl y Coleg dechreuodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Sir Brynrefail o 1908 hyd 1910.[1] Wedyn bu'n brifathro Ysgol y Sarnau (ger Cefnddwysarn) am tua naw mis rhwng 1912 ac 1913[2] cyn derbyn swydd fel athro yn Sarn, Llŷn. Yn 1915 symudodd i Ysgol Sir y Barri.

Oherwydd gorfodaeth filwrol, ymunodd â'r fyddin yn Nachweddd 1916 am gyfnod o ddwy flynedd. Dychwelodd i'r Barri ar ôl y rhyfel. Yn fuan wedyn cafodd le mewn ysgol yn Oakley Park, yn Sir Drefaldwyn.

Problemau Prifysgol

golygu

Penodwyd R. Williams Parry yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mangor yn Rhagfyr 1921. Darlithiai ar Lydaweg, a Chernyweg a hefyd ar Ramadeg Cymraeg. Yn 1912 cafodd M.A. am ysgrifennu traethawd ar Gysylltiadau'r Gymraeg a'r Llydaweg. [3] Yno roedd Syr John Morris-Jones yn Bennaeth ar y Coleg ac yn ei gynorthwyo roedd yr Athro Ifor Williams. Roedd Willams Parry yn hapus yno o 1922 hyd tua 1928 yn darlithio'n bennaf i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran Gymraeg. Roedd hefyd yn cynnal dosbarthiadau nos. Teimlai erbyn Hydref 1928 fel lledu ei adenydd. Roedd am ddarlitho i'r dosbarth Anrhydedd ar gelfyddyd barddoniaeth yn gyffredinol, ond teimlai Ifor Williams nad oedd y cyrsiau roedd yn ei gynnig yn ddigon academaidd eu natur. Bu'n frwydr chwerw a barhaodd am bymtheg mlynedd.[4]

Ei waith

golygu

Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd cryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr. Cyhoeddodd ddau gasgliad o gerddi, Yr Haf a Cherddi Eraill (1924) a Cherddi'r Gaeaf (1952). Mae ei gerddi mwyaf poblogaidd yn cynnwys 'Y Llwynog', 'Eifionydd' (am lonyddwch y Lôn Goed) ac 'Englynion coffa Hedd Wyn'.

Cyhoeddwyd casgliad o'i ryddiaith dan y teitl Rhyddiaith R. Williams Parry dan olygyddiaeth Bedwyr Lewis Jones yn 1974.

Llyfryddiaeth

golygu

Astudiaethau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Parch John Pritchard (1940); Llyfr Hanes yr Ysgol Sir, Brynrefail, Arfon (cyhoeddwr: Llywodraethwyr yr ysgol; argraffwyr: Swyddfa’r Goleuad.)
  2. Elfyn Pritchard, cyn brifathro Ysgol Fridd y Llyn (ar lafar wrth Gareth Pritchard)
  3. Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif. Ben Rees.Cwmni Cyhoeddiadau Modern 1972
  4. Alan Llwyd, Barn 601 (Chwefror 2013)