Thomas Gwynn Jones

bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd

Bardd, nofelydd, dramodydd, beirniad llenyddol, ysgolhaig, cyfieithydd a newyddiadurwr oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref 18717 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn ac yn ffigwr allweddol yn llenyddiaeth, ysgolheictod ac astudiaethau llên gwerin Cymru yn hanner cyntaf yr 20g. Mae wedi ei ddisgrifio fel un o ffigyrrau deallusol pennaf ei oes yn y Gymraeg ac sonir amdano'n aml fel un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.[1][2][3] Roedd yn ffigwr allweddol yn y 'dadeni' ym Marddoniaeth Gymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.[4] Roedd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg.

Y Prifardd a'r Athro
T. Gwynn Jones
Llun gan arlunydd anhysbys o T. Gwynn Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol
GanwydThomas Jones
10 Hydref 1871
Y Gwyndy Uchaf, Betws-yn-Rhos, Sir Ddinbych, Cymru
Bu farw7 Mawrth 1949(1949-03-07) (77 oed)
Willow Lawn, Caradoc Road, Aberystwyth, Cardiganshire, Cymru
Enwau eraillGwynvre ap Iwan, Ruhrik Du, nifer o ffugenwau eraill.
GwaithBardd, ysgolhaig, beirniad, nofelydd, newyddiadurwr, llyfrgellydd
Gweithiau nodedigCerddi: Ymadawiad Arthur, Madog, Gwlad y Bryniau, Ystrad Fflur, Gwlad y Gân, Anatiomaros, Tir na Nog; Nofelau a straeon byrion: Enaid Lewys Meredydd, Gorchest Gwilym Bevan, Brethyn Cartref; Gweithiau eraill: Gwaith Tudur Aled, Cofiant Thomas Gee
TeitlAthro Emeritws Celteg
PriodMargaret Jane Davies
PlantEluned, Arthur ap Gwynn, Llywelyn
RhieniIsaac Jones a Jane Roberts
GwobrauCadair yr Eisteddfod Genedlaethol (1902 ac 1909), D.Litt (Cymru) (1937), D.Litt (Eire) (1937), C.B.E. (1937)

Bywgraffiad

golygu

Bywyd Cynnar

golygu
 
'Gwyndy', Betws-yn-Rhos; man geni T. Gwynn Jones.

Cafod ei eni yn Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw). 'Thomas' oedd ei unig enw bedydd; mabwysiadodd yr enw Gwynn (ar ôl y Gwyndy) yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel newyddiadurwr.[5] Roedd yn fab i Issac a Jane Jones; ffermwr a bardd amatur oedd Isaac Jones; symudodd y teulu nifer o weithiau wrth i denantiaethau Isaac gael eu terfynu gan landlordiaid am resymau gwleidyddol, ffaith a ddylanwadodd ar wleidyddiaeth Gwynn ei hun yn ddiweddarach yn ei oes.

Ni chafodd fwy o ysgol ffurfiol nag oedd yn arferol i fachgen o'i ddosbarth; aeth i ysgolion yn Llanelian (Hen Golwyn), lle profodd ddefnydd o'r Welsh Not, Abergele a Dinbych. roedd yn ddisgybl galluog fodd bynnag a chafodd hefyd rywfaint o diwtora mewn Groeg, Lladin a Mathemateg gan gymydog mewn paratoad ar gyfer cais am ysgoloriaeth i Rydychen; ac yntau'n barod i fynd yno fodd bynnag profodd gyfnod o iechyd gwael a barodd dros flwyddyn gan ei rwystro rhag allu derbyn ei ysgoloriaeth.[5]

Dinbych: 1890au

golygu

A'i iechyd yn rhy wael i ystyried ffermio, dilynodd gyrfa fel newyddiadurwr wedi gadael cartref, gan ddod yn is-olygydd ar Baner ac Amserau Cymru yn 1890 dan olygyddiaeth Thomas Gee yn Ninbych. Yn 1893 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i Isaac Foulkes ar Y Cymro, ond dychwelodd i Ddinbych a'r Faner yn 1895 gan weithio hefyd ar bapur Saesneg y North Wales Times.[5] Yn ddiweddarach ysgrifennodd gofiant i Gee sy'n ddrych i'w oes yn ogystal â'i waith.

Ymddangosodd ambell stori fer a cherdd ganddo dan ffugenwau yn ystod yr 1890au, a chafodd enw fel newyddiadurwr beiddgar nad oedd ofn ganddo feirniadu'r gyfundrefn, yn enwedig yr Ymerodraeth Brydeinig a chyfundrefn barddol yr Eisteddfod a oedd, ym marn Gwynn, yn henffaswin ac yn isel ei safon. Roedd yn ohebwr cyson ag Emrys ap Iwan, a fu'n dylanwad gwleidyddol a llenyddol sylweddol arno ga Bu Gwynn weithredol hefyd ym mudiad Cymru Fydd.[6] Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar Yr Herald a'r Caernarvon and Denbigh Herald dan olygyddiaeth ei gyfaill Daniel Rees; dechreuodd ei nofel gyntaf Gwedi Brad a Gofid ymddangos ar dudalennau'r Herald yn 1897; fodd bynnag ei waith llenyddol pwysicaf o'r cyfnod hwn oedd y cyntaf o'i gerddi hir, Gwlad y Gân (1896-7), cerdd yn dychan y gyfundrefn barddol a ddisgrifiwyd gan W. J. Gruffydd yn "daranfollt".[5] O 1898-99 ymddangosodd nofel arall o'i eiddo, Camwri Cwm Eryr ym Mhapur Pawb, cylchgrawn oedd hefyd dan olygyddiaeth Rees; ymddangosodd ei drydedd nofel Gorchest Gwilym Bevan yn Y Cymro yn 1899.

Priododd Margaret Jane Davies yn 1899.

Caernarfon: 1900au

golygu
 
T. Gwynn Jones yn ei 30au, fel yr ymddangosodd yn Ymadawiad Arthur a Cherddi Eraill (1910)

Er gwaethaf Gwlad y Gân fel nofelydd felly yr oedd Gwynn yn fwyaf adnabyddus yn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.[7] Roedd ei fryd ar farddoniaeth fodd bynnag, a phenderfynodd gystadlu am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, gan gwblhau ei awdl ar y funud olaf.[8] Nid oedd Gwynn wedi disgwyl i'w awdl yntau ennill y gystadleuaeth ac nid oedd yn bresennol ar gyfer y seremoni; cadeiriwyd ei gyfaill Beriah Gwynfe Evans yn ei le.[9]

Ochr yn ochr â'i lwyddiant eisteddfodol parhaodd ei yrfa newyddiadurol, a daliodd i ysgrifennu nofelau a cherddi hefyd drwy flynyddoedd cynnar y ganrif. Cyhoeddwyd dau gasgliad o'i gerddi yn ystod y cyfnod hwn, Gwlad y Gân a Chaniadau Eraill (1902) ac Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill (1910). Yn dilyn cyfnod o gorweithio profodd broblemau iechyd ac yn dilyn diagnosis o'r diciâu yn 1905 treuliodd sawl mis yn yr Aifft, gan ymweld ag Alexandria a Chairo i geisio lleddfu'r clefyd, gan ddal i ysgrifennu cyfraniadau at y wasg yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ddiweddarch cyhoeddwyd rhai mewn cyfrol yn cofnodi'r daith, Y Môr Canoldir a'r Aifft (1912), un o'r enghreifftiau cynharaf yn y Gymraeg o lenyddiaeth taith.

Wedi iddo dychwelyd daeth yn olygydd ar Bapur Pawb, lle daliodd i gyhoeddi nofelau; yn 1905, cyhoeddwyd ei seithfed, Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002; sef, mae'n debyg, yr enghraifft cynharaf o nofel wyddonias yn y Gymraeg.[10] Mewn cyfnod eithriadol o brysur o 1905 i 1908 cyhoeddodd nifer o nofelau a chyfieithiadau a dros dau gant o straeon byrion ym Mhapur Pawb a chyhoeddiadau eraill.[11] Casglwyd rhai o'r rhain yn ddiweddarach yn y gyfrol Brethyn Cartref (1913).

Ennillodd y Gadair am yr eildro yn y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 gyda'r awdl Gwlad y Bryniau.

Aberystwyth: 1909-1949

golygu

Yn chwilio am waith fyddai'n gofyn llai o'i iechyd bregus,[12] ar ôl blynyddoedd o newyddiadura aeth i weithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 1909. Gyda'i waith fel newyddiadurwr daeth ei yrfa fel nofelydd i ben hefyd: er iddo fyw am bron i ddeugain mlynedd eto ni chyhoeddodd nofel arall ar ôl John Homer yn 1910.

Nid oedd y gwaith yn y llyfrgell at ei ddant, fodd bynnag.[13] Daeth ddihangfa pan agorodd cyfle iddo ddod yn ddarlithydd yn adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw hyd at ei ymddeoliad yn 1937.

Yn dilyn cyfnod yn ysgrifennu dramâu yn yr 1910au, ei waith ysgolheigaidd mynnodd y sylw mwyaf am weddill ei oes, gan gynnwys ei gofiant i Thomas Gee a golygiad o waith Tudur Aled ymhlith nifer fawr o waith ysgolheigaidd arall mewn meysydd amrywiol. Daliodd ati i gyfieithu ac i farddoni fodd bynnag, gyda nifer o'i gerddi hwyr yn ymddangos mewn cyfrol yn 1944 dan y teitl Y Dwymyn. Yn 1924 cyfeitihodd ddrama fawr Goethe Faust i'r Gymraeg.

Er nad yw'n ymddangos iddo gystadlu eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl ennill y gadair am yr eildro yn 1909, gwasanaethodd fel beirniad eisteddfodol ar nifer o adegau drwy weddill ei fywyd, ac ef oedd y prif feirniad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1917 pan gwobrwywyd y bardd ifanc Hedd Wyn.

Anrhydeddwyd ef â D.Lit. Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon, ill dau yn 1938. Cafwyd ymdrech gan nifer o ysgolheigion Ewropeaidd i'w enwebu am Wobr Nobel am Lenyddiaeth, fodd bynnag gwrthododd Gwynn dderbyn yr enwebiad.[14]

Bu farw yn ei gartref yn Aberystwyth, 7 Mawrth 1949, yn 77 oed; cafodd ei gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn. Gadawodd ei wraig Margret a dau o blant, gan gynnwys Arthur ap Gwynn.[5]


Daliadau Gwleidyddol ac Athronyddol

golygu

Roedd Gwynn yn genedlaetholwr Cymreig; bu'n weithredol ym mudiad Cymru Fydd yn ystod yr 1890au,[15] ac mae themâu cenedlaetholgar i'w cael yn rhai o'i nofelau, yn enwedig Enaid Lewys Meredydd.

Roedd Gwynn yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a cherddodd allan o'r babell yn fwriadol yn ystod araith y Prif Weinidog David Lloyd George yn ystod seremoni cadeirio Eisteddfod 1917 .[16] Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth hefyd, pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Brydain yn y rhyfel.

Dylanwad a Gwaddol

golygu

Er gwaethaf cynnyrch toreithiog T. Gwynn Jones mewn ystod eang o genres llenyddol, hwyrach mai am ei waith fel bardd y cofir ef fwyaf; ac fe'i ystyrir ymhlith beirdd pennaf yr iaith Gymraeg mewn unrhyw ganrif,[1][2] yn enwedig am ei gerddi naratifol hir ar gynghanedd, sy'n cynnwys Ymadawiad Arthur, Tir Na Nog, Anatiomaros, Madog ac eraill. Roedd Gwynn yn feistr ar y gynghanedd a rhoddir teyrnged iddo'n aml am adnewyddu traddodiad y canu caeth; ystyriai R. Silyn Roberts (enillydd y Goron yn 1902 - yr un flwyddyn enillodd Gwynn y gadair gydag Ymadawiad Arthur - bod y gerdd honno wedi'i argyhoeddi bod y gyngnhanedd eto'n fyw.[17] Er bod ei ddwy gerdd eisteddfodol fuddugol yn awdlau confensiynol (o ran mesur barddonol), roedd yn arbrofwr cysgon gyda'r gynghanedd, gan ddefnyddio mesurau cynghaneddol y tu hwnt i'r pedwar mesur ar hugain mewn cerddi fel Madog. Defnyddiodd y gynghanedd hyd yn oed wrth gyfieithu barddoniaeth.[1]

Ystyrir Gwynn fel arfer yn ramantydd, yn sicr yn ystod blynyddoedd cyntaf yr Ugeinfed ganrif.[18] Roedd Gwynn yn un o'r cynharaf o nifer o feirdd amlwg yn barddoni ar ddechrau'r ugeinfed ganrif - yn eu plith W. J. Gruffydd, R. Williams Parry a T. H. Parry Williams - gan ei wneud yn gyfnod a ddisgrifir weithiau fel 'dadeni' ym marddoniaeth Gymraeg, a Gwynn yn ffigwr allweddol iddo.[4] Fodd bynnag mae beirniaid eraill wedi dadlau bod elfennau o foderniaeth i'w gweld ym marddoniaeth Gwynn, yn enweidg ei gerddi hwyr.[18]

Bu'n ddylanwad uniongyrchol ar nifer o feirdd Cymraeg eraill gan gynnwys ei gyfoeswyr R. Williams Parry[1] ac R. Silyn Roberts[17] a beirdd diweddarach fel Gwenallt.[1]

Ni chafodd nofelau Gwynn yr un sylw â'i farddoniaeth; fodd bynnag ym marn ei gofiannydd Alan Llwyd roedd yn arloeswr yn y maes a dylid ei ystyried Gwynn yn "ewythr" y nofel Gymraeg.[19]

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Llyfrau Chyhoeddiadau T. Gwynn Jones

golygu

Barddoniaeth

golygu

(Dim ond casgliadau a ddetholwyd gan Gwynn Jones ei hun yn ystod ei fywyd a restrir yma)

Nofelau

golygu

(Mae'r flwyddyn gyntaf yn cyfeirio at ddyddiad cyhoeddiad gwreiddiol y nofelau mewn cyfnodolion; yr ail flwyddyn y cyhoeddiad cyntaf fel cyfrol, os cafwyd un)

Dramâu

golygu
  • Caradog yn Rhufain (Wrecsam, 1914)
  • Dafydd ap Gruffydd (Aberystwyth, 1914)
  • Tir na N-óg (Caerdydd, 1916)
  • Dewi Sant (Wrecsam, 1916)
  • Y Gloyn Byw (Y Drenewydd, 1922)
  • Anrhydedd (Caerdydd, 1923)
  • Y Gainc Olaf (Wrecsam, 1934)

Cyfieithiadau

golygu

Eraill

golygu
  • Y Dwymyn, 1934–35 (Caerdydd, 1972).
  • Dylanwadau (Bethesda, 1986).
  • Tudur Aled, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926). [Golygiad mewn dwy gyfrol o gerddi Tudur Aled.]
  • Welsh Folklore and Folk Custom (Llundain, 1930). [Astudiaeth arloesol o lên gwerin Cymru.]
  • Marged Enid Griffiths, (gol.) T. Gwynn Jones, Early Vacation in Welsh (Caerdydd, 1937).
  • Adolygiad/au: T. Gwynn Jones, Y Faner (17.2.89), 14.
  • T. P. Ellis, Dreams and memories (Y Drenewydd, 1936), gyda T. Gwynn Jones, ‘Foreward’, t. Vii.
  • Astudiaethau (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau][20]
  • Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
  • Brethyn Cartref (Caernarfon, 1913). [Straeon][21]
  • Peth Nas Lleddir (Aberdâr, 1921).
  • Rhieingerddi’r Gogynfeirdd (Dinbych, 1915). [Astudiaeth o waith y Gogynfeirdd.]
  • Cymeriadau (Wrecsam, 1933). [Ysgrifau][22]
  • Detholiad o Ganiadau (Y Drenewydd, 1926).
  • Cerddi Hanes (Wrecsam, 1930).[23]
  • Gwlad y gân (Caernarfon, 1902). [Cerddi]
  • Manion (Wrecsam, 1902).
  • ‘Rhagymadrodd’, yn (casg.) W. S. Gwynn Williams, Rhwng Ddoe a Heddiw: Casgliad o Delynegion Cymraeg, (Wrecsam, 1926), tt. 13–18
  • Emrys ap Iwan: Cofiant (Caernarfon, 1912). [Cofiant]
  • Llenyddiaeth y Cymry: Llawlyfr i Erfydwyr (Dinbych, 1915). [Hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.]
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Ceiriog (Wrecsam, 1927).
  • Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd ganrif ar bumtheg (Caernarfon, 1920)
  • (Casg. a gol.) T. Gwynn Jones, Y Gelfyddyd Gwta (Aberystwyth, 1929).[24]
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Talhaiarn (Aberystwyth, 1930).
  • Brithgofion (Llandybïe, 1944). [Darn o hunangofiant.][25]
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, O Oes i Oes (Wrecsam, 1917).
  • Llyfr Gwion Bach (Wrecsam, 1924).
  • Plant Bach Tŷ Gwyn (Caerdydd, 1928).
  • Yn Oes yr Arth a’r Blaidd (Wrecsam, 1913).
  • Dyddgwaith (Wrecsam, 1937).[26]
  • ‘Lluniau o Gawr y Llenor’, Barddas, rhif. 212–213 (Rhagfyr 1994–Ionawr 1995), t. 47.
  • ‘Rhagair’ yn Ioan Brothen, (gol.) John W. Jones, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942).
  • T. Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn, Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd, 1950).
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Troeon Bywyd (Wrecsam, 1936).
  • Cerddi ’74 (Llandysul, 1974).
  • Bardism and Romance: a Study of the Welsh Literary Tradition (Llundain, 1914). [Astudiaeth]
  • Modern Welsh Literature (Aberystwyth, 1936).
  • Casgliad o eiriau llafar Dyffryn Aman (Caerdydd, 1931).
  • ‘Rhagair’, yn (gol.) John W. Jones, Yr Awen Barod: cyfrol goffa Gwilym Deudraeth (1863–1940) (Llandysul, 1943).
  • Y Dwymyn, 1934–35 (Aberystwyth, 1944). [Cerddi]
  • Cultural Basis: a study of the Tudor period in Wales (, 1921).
  • Llenyddiaeth Wyddelig (Lerpwl, 1916).
  • Cân y Nadolig (Llangollen, 1945).
  • The Culture and Tradition of Wales (Wrecsam, 1927).
  • ‘Rhagair’ yn D. Emrys James, Odl a Chynghanedd (Llandybïe, 1961).
  • Cofiant Thomas Gee (Dinbych, 1913). [Un o'r cofiannau mwyaf trwyadl a welwyd yn y Gymraeg, ar fywyd a chyfnod y cyhoeddwr Thomas Gee.]
  • (Casg.) Llen Cymru (Caernarfon, 1921).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 2 (Caernarfon, 1922).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 3 (Aberystwyth, 1926).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 4 (Aberystwyth, 1927).
  • Homerus, (cyf.) R. Morris Lewis gydag ychwanegiadau, rhagair ac anodiadau T. Gwynn Jones, Iliad Homer, (Wrecsam, 1928).
  • Daniel Owen, 1836–1895 (Caerdydd, 1936).
  • Daniel Owen, (gol.) T. Gwynn Jones, Profedigaeth Enoc Huws (Wrecsam, 1939).[27]
  • Y Cerddor (Aberystwyth, 1913).
  • Am ragor, gweler A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Casg.) Owen Williams (Wrecsam, 1938)
  • Eglwys y Dyn Tlawd (1892)

Beirniadaeth ac astudiaethau

golygu
  • Owen Williams (casg.) , A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Wrecsam, 1938)
  • "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor cyf. 28 (Haf 1949)
  • W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1970)
  • D. Ben Rees, Pumtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (Pontypridd, 1972)
  • Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth Thomas Gwynn Jones: Astudiaeth (Llandysul, 1972)
  • David Jenkins, Thomas Gwynn Jones - Cofiant (Gwasg Gee, 1973)
  • D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
  • Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones (Llandybïe, 1982)
  • David Jenkins (gol.), Bro a Bywyd: T. Gwynn Jones 1871-1949 (Caerdydd, 1984)
  • Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949 (Aberystwyth, 2019)

Mewn Ffuglen

golygu

Sonir yn fyr am helynt y cadeirio ym Mangor yn 1902 (gweler Nodiadau isod) yn y nofel Chwalfa gan T. Rowland Hughes. Sonir am nofel Gwynn Lona yn Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd.

Nodiadau

golygu
  1. Gan nad oedd yr eisteddfod yn rhoi gwybod i gystadleuydd ei fod wedi ennill cyn y cyhoeddiad yn y cyfnod hwn, nid oedd T Gwynn yn bresennol i gael ei gadeirio ar ddydd Iau'r cadeirio. Ei gyfaill Beriah Gwynfe Evans gafodd ei gadeirio yn ei le. Cyflwynwyd y Gadair i T Gwynn ar y dydd Gwener. Llun o'r cyflwyniad yw hwn.[9]

Ffynhonellau

golygu
  • Llwyd, Alan (2019). Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949. Cyhoeddiadau Barddas.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Williams, Huw Llewelyn (1950), 'T. Gwynn Jones', Y Traethodydd Cyf. CV t.110. "Dyma fy newis o feirdd mawr Cymru o ddyddiau'r Gogynfeirdd: Hywel ab Owain Gwynedd; Dafydd ap Gwilym; Tudur Aled; Pantycelyn; Goronwy Owen a Gwynn Jones."
  2. 2.0 2.1 Williams, Alun Llewelyn (1971) 'T. Gwynn Jones: Gorchest y Bardd', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, t.119
  3. Gruffydd, W. J. (1954) 'T. Gwynn Jones', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, t.43
  4. 4.0 4.1 Rhys, Robert. "T. Gwynn Jones and the Rennaisance of Welsh Poetry" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-18.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Thomas Gwynn Jones (Y Bywgraffiadur)". Cyrchwyd 2024-09-18.
  6. Llwyd, t. 80.
  7. Llwyd, t. 144.
  8. Llwyd, t. 141-2.
  9. 9.0 9.1 "CADEIRIO Y BARDD - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1902-09-18. Cyrchwyd 2023-10-17.
  10. Price, Stephen (2024-04-14). "Publisher unearths early Welsh science fiction novel". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-14.
  11. Llwyd, t. 250.
  12. Llwyd, t. 270.
  13. Llwyd, t. 274-5.
  14. Morgan, Derec Llwyd (1991) 'Rhagymadrodd' yn Jones, T. Gwynn, Caniadau, Hughes a'i Fab.
  15. Llwyd, t. 80.
  16. Llwyd, Alan (1914) Cofiant Hedd Wyn, Y Lolfa.
  17. 17.0 17.1 Thomas, Ffion Mai (1942) 'R. Silyn Roberts', Y Traethodydd Cyf. XCVII (XI) t.89
  18. 18.0 18.1 Lewis, Llŷr (2024-04-14). "T. Gwynn Jones (Yr Esboniadur)". Porth: Yr Esboniadur. Cyrchwyd 2024-04-14.
  19. Llwyd, t. 139.
  20. Astudiaethau T Gwynn Jones Astudiaethau T Gwynn Jones ar Wicidestun
  21. Brethyn Cartref ar Wicidestun
  22. Cymeriadau (T. Gwynn Jones) ar Wicidestun
  23. Cerddi Hanes ar Wicidestun
  24. Y Gelfyddyd Gwta ar Wicidestun
  25. Brithgofion ar Wicidestun
  26. Dyddgwaith ar Wicidestun
  27. Profedigaethau Enoc Huws (1939) Ar Wicidestun
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod T. Gwynn Jones ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.