Coláiste Lurgan

Coleg neu ysgol haf dysgu a trochi iaith Gwyddeleg yn Gaeltacht Conamara

Ysgol haf annibynnol yw Coláiste Lurgan ("Coleg Lurgan") sy'n cynnal cyrsiau trochi iaith Gwyddeleg tair wythnos ym mhentref Indreabhán, ym mro Gaeltacht Conamara, Swydd Galway.[1] Arwyddair y Coleg yw Gaeilge gan Eagla sef, "Gwyddeleg heb ofn".

Coláiste Lurgan
Enghraifft o'r canlynolsummer school Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthContae na Gaillimhe Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://lurgan.biz/ Edit this on Wikidata
Canolfan ddarlledu sianel deledu Wyddeleg, TG4, Baile na hAbhann, sydd, fel Coláiste Lurgan ym mro Conamara gyda'r bwriad o warchod a datblygu'r iaith

Fel rhan o'u ffocws dan gyfarwyddyd myfyrwyr ar addysgu iaith, mae'r ysgol yn rhedeg TG Lurgan, menter i helpu myfyrwyr i gaffael geirfa trwy gynhyrchu cloriau o gerddoriaeth boblogaidd.[2] Ffurfiwyd y grŵp pop, Seo Linn, yn dilyn llwyddiant rhai o'r cloriau hyn.[3]

Trefniadaeth golygu

Gellid cymharu Coláiste Lurgan i Wersyll yr Urdd Llangrannog neu Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Fel y ddau ganolfan Gymraeg, fe'i lleolir mewn ardal hardd lle mae'r iaith yn iaith gymunedol a chynigir gwersi iaith a gweithgaredd hamdden, er, nid yw'r gweithgaredd hamdden mor greiddiol ag y mae yn Llangrannog.

Mae'r myfyrwyr (sy'n cynnwys oedolion neu bobl ifanc) yn byw yn Lóisin Tithe ("llety preswyl", lle yma, teuluoedd lleol sy'n rhoi'r llety) am gyfnod eu cwrs tair wythnos gyda chyfartaledd o 11 o fyfyrwyr yn lletya gyda phob teulu. Nid yw'r Coleg yn gwneud elw a thra bod Mna Tí ("menyw y tŷ", h.y. perchennog y llety) yn cael rhywfaint o gymorth gan y Wladwriaeth nid yw'r coleg yn ei dderbyn. Mae'r Coleg yn gweithredu ar gost weinyddol o lai na 6% gyda gweddill ein cyllideb yn cael ei ail-fuddsoddi mewn rhedeg/datblygu ein cyrsiau Gaeilge ar gyfer ein myfyrwyr.[4]

Cymru a Coláiste Lurgan golygu

Ym mis Mawrth 2020, sefydlwyd partneriaeth rhwng Urdd Gobaith Cymru a TG Lurgan. Yn 2022 teithiodd aeldau o'r Urdd i'r Coleg yn Conamara fel rhan o'r bartneriaeth rhwng yr Urdd a TG Lurgan. Bu'r bobl ifanc yno yn dysgu am iaith a diwylliant eu gilydd ac i gyd-weithio ar gynhyrchiadau pop cyfoes yn y Gymraeg a'r Wyddeleg. Recordiwyd y gân a'r fideo ddwyieithog Cymraeg a Gwyddeleg, Uisce Faoin Droichead / Dŵr dan y Bont.[5]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gaeilge gan Eagla – Coláiste Lurgan is an Independent Irish language summer school without any affiliation to other organisations or groups". lurgan.biz (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-05-18.
  2. "TG Lurgan – Gaeilge gan Eagla". lurgan.biz (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-05-18.
  3. "This Irish band, singing As Gaeilge, is heating up the music scene with their sound". Joe.ie. 2016. Cyrchwyd 2 July 2019.
  4. "TG Lurgan – Gaeilge gan Eagla". lurgan.biz (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-02.
  5. "Uisce Faoin Droichead / Dŵr dan y Bont / Water under the Bridge". Gwefan Urdd Gobaith Cymru. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2022.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.