Mae TG Lurgan yn brosiect cerddorol a lansiwyd gan Coláiste Lurgan, ysgol haf annibynnol wedi'i lleoli yn Conamara, Swydd Galway. Lleolir yr ysgol mewn ardal Gaeltacht, lle mai'r Wyddeleg yn brif iaith lafar. Mae TG Lurgan yn rhyddhau dehongliadau o nifer o caneuon poblogaidd gyda'r geiriau yn yr iaith Wyddeleg.

Pwrpas TG Lurgan yw helpu a chefnogi dysgwyr i gaffael yn yr iaith Gwyddeleg ac mae ei sianel YouTube yn blatfform uchel ei cyrhaeddiad i'r iaith leiafrifol.

Caneuon

golygu

Ffrwydrodd poblogrwydd y prosiect yn 2013 gyda'u dehongliad o "Wake Me Up" gan y DJ o Sweden Avicii. Stiofán, athro yn Coláiste Lurgan, yw'r brif leisydd yn y gân. Mae'r gân wedi cael dros 7.6 miliwn o gyrhaeddiad erbyn Ionawr 2021 a dyma yw'r fideo fwyaf poblogaidd ar sianel YouTube TG Lurgan.[1] Cafodd "Wake Me Up" ymddangosiad byw ar raglen boblogaidd sioe siarad Gwyddelig RTÉ The Late Late Show.[2]

Rhyddhaodd TG Lurgan gyfansoddiadau gwreiddiol hefyd, fel "Damhsa Amhráin", "Céili ar an Trá", "An Buachaill Ceart", "Can Os Ard", "Seans Deirneach" ac "An Bráisléid".[3]

Mae nifer o ddehongliadau TG Lurgan wedi pasio 1 miliwn o gyrhaeddiad ar YouTube: "Amhrán na gCupán" dehongliad o "Cups" gan When I'm Gone, "Síraidh Spraoi" dehongliad o "Cheerleader" gan OMI, dehongliad o "Pompeii" gan Bastille, dehongliad o "Hello" gan Adele, dehongliad o "Some Nights" gan fun, a dehongliad o "Despacito " gan Luis Fonsi. 

Cydweithio gyda'r Urdd

golygu

Gwnaeth y prosiect cydweithio gyda'r Urdd yn 2020-21 i ryddhau dehongliad o "Blinding Lights" gan The Weeknd, ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Solise’. Dyma'r tro cyntaf i gân gael ei wneud yn yr iaith Wyddeleg a'r iaith Gymraeg ar y cyd. [4]

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, “Waeth beth fo’r hinsawdd wleidyddol a sefyllfa Cymru y tu allan i Ewrop, fel sefydliad rydym ni’n awyddus i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i fwynhau profiadau unigryw fel hyn gyda chymheiriaid ledled y byd.”[4] Ychwanegodd Mark Drakeford “Bydd y cydweithrediad a’r creadigrwydd hwn yn dod â ni yn agosach at ein gilydd ar adeg pan mae hynny’n bwysicach nag erioed”.[5]

Yn ol Mícheál Ó Foighil, Cyfarwyddwr TG Lurgan, mae'r prosiect yn cynnig "mwy o ryngweithio diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru. Rydym yn gobeithio bod y prosiect hwn yn helpu i ehangu gorwelion pobl a gwneud iddynt sylweddoli nad yw’r ieithoedd mor wahanol i’w gilydd.”[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. TG Lurgan YouTube channel: Avicii Vs Lurgan - "Wake Me Up" as Gaeilge
  2. "Coláiste Lurgan/Seo Linn perform Wake Me Up on Late Late Show". YouTube. Cyrchwyd 2017-09-08.
  3. "College promotes online learning as Gaeilge". Irish Examiner. Cyrchwyd 2017-09-08.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Fideo cerddoriaeth Cymraeg a Gwyddelig cyntaf erioed". Golwg360. 2021-01-07. Cyrchwyd 2021-01-07.
  5. "Ardderchog. Fantastic to see this @Urdd & @TgLurgan partnership going from strength to strength". Trydar.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.