Conamara

Bro Wyddeleg a ddiwylliannol yn Swydd Gallimh, Iwerddon

Gelwir ardal yng ngorllewin Swydd Galway yng ngorllewin Iwerddon yn Conamara (ffurf Saesneg: Connemara). Mae'r enw'n deillio o Conmhaícne Mara, un o nifer y confoi yn y wlad, tiroedd sy'n perthyn i deulu arbennig, ac roedd yr un yma gerllaw'r môr. Heddiw dywedir ei bod yn gorchuddio'r wlad o ddinas Gallimh yn ôl i Clifden. Fodd bynnag, mae'r ardal i'r gorllewin o Galway yn cael ei hadnabod yn gywir fel Cois Fharraige, ac mae Connemara yn dechrau'n gywir yn ôl oddi yno. Gellid disgrifio endid Conemara fel rhywbeth tebyg i Bro yng Ngymru - tiriogaeth sydd yn gryf o ran hunaniaeth ond heb statws weinyddol glir.

Conamara
Enghraifft o'r canlynolrhanbarth Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolConamara Edit this on Wikidata
RhanbarthContae na Gaillimhe Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Conamara mewn coc, a Gwlad Joyce neu'r Partry mewn gwyrdd
Golygfa o Conamara o Diamond Hill
Golygfa o Derryclare o ffordd yr N59

Etymoleg golygu

Mae "Conamara" yn deillio o'r enw llwythol Conmhaícne Mara, a ddynododd gangen o'r Conmacne, grŵp llwythol cynnar a oedd â nifer o ganghennau wedi'u lleoli mewn gwahanol rannau o Connacht. Gan fod y gangen benodol hon o'r Conmacne yn byw ger y môr, daethant i gael eu hadnabod fel y Conmacne Mara ("môr" yn y Wyddeleg yw muir, a'r modd genidol yr mara, felly "perthyn i'r môr").

Daearyddiaeth golygu

Clifden yw'r dref fwyaf yn Connemara. Mae'r tir yn arw, ond mae llawer ar yr ochr honno o'r wlad yn ei werthfawrogi oherwydd ei fod yn groesawgar, yn cael golygfeydd hardd o dir a môr, ac yn dal i siarad rhywfaint o Wyddeleg. I'r de, mae ynysoedd ymMae Cill Chiaráin sy'n rhan o Connemara, m.sh. Garumna, Lettermore a Lettermullen. Mae Carna yma hefyd.

I'r gogledd o'r ardal mae Lough Corrib, Lough Mask a'r Birr Peaks, mynyddoedd sy'n cyrraedd tua 730 metr o uchder. I'r de ceir bae Galway ac Ynysoedd Aran ac i'r gorllewin ac i'r de ceir Cefnfor Iwerydd.

Cyfeirir yn aml at yr ardal yng Ngogledd Connemara sy'n gartref i An Sraith Willeach, An Teach Dóite (Maam Cross), Maam (Maam), Corr na Móna (Cornamona) a Clonbur fel Gwlad James Joyce.

Cynhelir rasys cyri yn Ardal Connemara bob Haf. Yn ogystal, mae miloedd o fyfyrwyr yn dod yma bob Haf i fynychu Gwyliau'r Haf fel Spleodar a Coláiste na fiann. Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu cynnal yn Camus, Ros Muc, Corr na Móna, Leitir Meallain a Leitir Móir.

Cam-ddiffinio golygu

Defnyddir y term Conamara ar hyn o bryd (yn anghywir) i ddisgrifio holl Swydd Galway i'r gorllewin o Lyn Corrib. Defnyddir Connemara hefyd i ddisgrifio'r Gaeltacht (yr ardaloedd lle siaredir Gwyddeleg o hyd) yng ngorllewin Galway. Y grefydd Gatholig yw'r mwyafrif yn yr ardal ac mae ganddi bum plwyf. Ffurfir arfordir Conamara gan nifer fawr o benrhyn. Prif ddinas Conamara yw Clifden. Mae'r ardal o'i chwmpas yn gyfoethog mewn setiau megalithig. Mae ganddi boblogaeth o 32,000, gyda rhwng 20,000 a 24,000 yn siarad Gwyddeleg.

Conamara a'r Wyddeleg golygu

Gwelir bro Conamara fel un o gadarnleoedd yr iaith Wyddeleg. Poblogaeth Conamara yw 32,000. Ceir rhwng 20,000–24,000 siaradwyr Gwyddeleg brodorol yn y fro, gan ei gwneud y Gaeltacht sydd â fwyaf o siaradwy Gwyddeleg. Mae'r Rhanbarthau Cyfrifo sydd â'r nifer fwyaf o siaradwyr Gwyddeleg yn Iwerddon gyfan, fel canran o'r boblogaeth, i'w gweld yn ardal De Connemara. Y rhai o oedran ysgol (5-19 oed) sydd fwyaf tebygol o gael eu hadnabod fel siaradwyr.[1]

Bu'n gyrchfan ar gyfer arweinwyr y Dadeni Wyddeleg yn 19g a dechrau'r 20g gan ddenu pobl megis Patrick Pearse yno i ddysgu ac ymarfer ei Wyddeleg. Roedd bwthyn gan Pearse yn Ros Muc.

Yn ystod cyfnod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a'r Rhyfel Cartref , bu Connemara yn ganolfan bwysig i waith Comisiwn Llên Gwerin Iwerddon yn cofnodi llên gwerin, mytholeg a llenyddiaeth lafar Iwerddon sydd dan fygythiad. Yn ôl y casglwr llên gwerin a’r archifydd Seán Ó Súilleabháin, eithriad yn hytrach na’r rheol oedd trigolion heb unrhyw straeon i’w hadrodd a chyfaddefwyd yn gyffredinol yn 1935 fod mwy o chwedlau gwerin heb eu cofnodi ym mhlwyf Carna yn unig nag yn unman arall yng Ngorllewin Ewrop.[2]

Yn fwy diweddar, bu o'r protestiadau mwyaf llwyddiannus yn ymwneud â’r orsaf radio di-drwydded, Saor Raidió Chonamara ("Radio Conamara Rydd") a ddaeth i’r awyr am y tro cyntaf yn ystod Oireachtas na Gaeilge yn 1968, fel her uniongyrchol i ddiffyg gweithredu llywodraeth Iwerddon ynghylch darlledu Gwyddeleg. Defnyddiodd yr orsaf drosglwyddydd tonnau canolig wedi'i smyglo i mewn o'r Iseldiroedd. Ymatebodd llywodraeth Iwerddon trwy gynnig gorsaf radio Wyddeleg genedlaethol RTÉ Raidió na Gaeltachta a ddaeth i'r awyr ar Sul y Pasg 1972. Mae ei phencadlys bellach yn Casla.

Ym 1974, perswadiodd Gluaiseacht Chearta Sibhialta na Gaeltachta (mudiad protest iaith a ysbrydolwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar i'r corff sefydliadol dros y Wydeleg, Conradh na Gaeilge i roi terfyn ar yr arfer a fu ers 1939 o gynnal Oireachtas na Gaeilge yn y brifddinas, Dulyn. Mae'r Oireachtas yn ŵyl ddiwylliannol, ieithyddol a llenyddol a fodelwyd ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol. Galwad y Gluaiseacht oedd i gynnal gŵyl mor bwysig tu allan i'r brifddinas ac yn hytrach yn ardaloedd y Gaeltacht.[3][4] Llwyddodd Gluaisceart hefyd i sicrhau cydnabyddiaeth i ddawns ar y sean-nós yn 1977.[5]

Yn ddiweddar, mae Coláiste Lurgan, coleg haf trochi iaith Wyddeleg yn Inverin, wedi ennill clod byd-eang am eu fersiynau Gwyddeleg o ganeuon pop Saesneg, gan gynnwys Hallelujah gan Leonard Cohen, Hello gan Adele, a Wake Me Up gan Avicii, ar sianel YouTube TG Lurgan. Mae'r band Seo Linn yn cynnwys cerddorion a gyfarfu yn y coleg.

Canu a Dawnsio golygu

Ceir dull canu sean-nós a hefyd dawns step 'sean nós' o'r enw Step Connemara.[6] Mae'r set yn rhan o ddawnsio traddodiadol Wyddelig, ysytyr sean nós yw "hen arddull".

Merlyn Conamara golygu

Ceir hefyd brîd o geffylau neu Merlyn Conamara (Gwyddeleg: Capaillín Chonamara; Saesneg: Connemara Pony). Maent yn adnabyddus am eu athletiaeth, amlochredd a natur dda. Mae'r brîd yn gwneud merlod sioe ardderchog.

Cymru a Conamara golygu

Yn sgil cydweithio rhwng Urdd Gobaith Cymru a TG Lurgan ym Mehefin 2022 bu i Gymry ifanc deitio i Conamara i aros yno gan recordio cân a dysgu am yr ardal, y Wyddeleg ac Iwerddon fel gwlad. Fel rhan o'r bartneriaeth rhwng y ddau fudiad iaith, croesawyd TG Lurgan i Gymru wedi'r ymweliad ag Iwerddon.[7] Bu iddynt recordio cân Dŵr Dan y Bont[8]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Census 2011: Diversity Ethnicity Languages" (PDF). Irish Census. 2011. Cyrchwyd 13 April 2016.
  2. Sean O'Sullivan (1966), Folktales of Ireland, University of Chicago Press. Pages xxxvi-xxxvii.
  3. "Oireachtas na Gaeilge in Connemara Gaeltacht". RTÉ Archives. RTÉ.ie. 24 September 2014. Cyrchwyd 19 March 2016.
  4. Ó hÉallaithe, Donncha (July 2014). "Oireachtas na Gaeilge 1974". Beo! (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 19 March 2016.
  5. Brennan, Helen (2001). The Story of Irish Dance. Rowman & Littlefield. tt. 140–1. ISBN 9781589790032. Cyrchwyd 19 March 2016.
  6. "Tutorial: Sean-Nos, Irish, The Connemara Step Two Ways". The Step Collective with Danielle Enblom. 31 Mai 2021.
  7. "2il ddiwrnod anhygoel yn Connemara yn perfformio yn y Gymraeg a Gwyddeleg". Twitter Urdd Gobaith Cymru. 25 Mehefin 2022.
  8. https://www.urdd.cymru/cy/ieuenctidachymuned/ieuenctid/yr-urdd-tg-lurgan/ |title=Yr Urdd a TG Lurgan |publisher=Gwefan Urdd Gobaith Cymru |year=2022}}
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Gaeltacht Cyfesurynnau: 53°30′N 9°45′W / 53.500°N 9.750°W / 53.500; -9.750