Gaeltacht Swydd Gaillimh

Gaeltacht yn swydd Galway, gorllewin Iwerddon

Mae gan Gaeltacht Swydd Gaillimh neu Gaeltach Swydd Galway yn cynnwys dau Gaelatacht, un Swydd Gaillimh, (Gwyddeleg: Gaeltacht Chontae na Gaillimhe) ac un Dinas Gaillimh (Gwyddeleg: Gaeltacht Chathair na Gaillimhe)[1] gyda'r boblogaeth gyfunol o 50,570 (2016)[2] ac maent yn cynrychioli 50.8% o gyfanswm poblogaeth y Gaeltacht yn genedlaethol. Mae Gaeltacht Gaillimh yn cwmpasu ardal ddaearyddol o 1,225 km2 (473 milltir sgwâr). Mae hyn yn cynrychioli 26% o gyfanswm arwynebedd tir y Gaeltacht.[3]

Gaeltacht Swydd Gaillimh
Enghraifft o'r canlynolGaeltacht Edit this on Wikidata
IaithGwyddeleg Edit this on Wikidata
Lleolir pencadlys genedlaethol Údarás na Gaeltachta (Awdurdod y Gaeltacht) yn y Gaeltacht

Sefydliadau

golygu

Ceir sawl sefydliad o bwys genedlaethol i'r iaith Wyddeleg yn y Gaeltachau yma.

Mae swyddfa Údarás na Gaeltachta (Awdurdod y Gaeltacht) ym mhentref Na Forbacha rhwng Bearna ac An Spidéal.

Ceir coleg cyfansoddol trydydd lefel Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway (NUIG) o'r enw Acadamh na hOllscolaíochta Gaeilge yn An Cheathrú Rua ac yn Carna. Mae’r orsaf radio Wyddeleg genedlaethol RTÉ Raidió na Gaeltachta wedi’i lleoli yn Casla, mae papur newydd ar-lein Tuairisc yn Bearna, ac mae gorsaf deledu genedlaethol TG4 ym Baile na hAbhann. Mae dinas Galway yn gartref i'r theatr Wyddeleg Taibhdhearc na Gaillimhe.

Lleolir Ysgol haf annibynnol Coláiste Lurgan ("Coleg Lurgan") u a sefydlwyd yn yr 1960asy'n cynnal cyrsiau trochi iaith Gwyddeleg tair wythnos a Coláiste Uí Chadhain a sefydlwyd yn 1983[4] ym mhentref Indreabhán (inverin). Ceir hefyd Coláiste Chamuis yn Baile na hAbhann, (Ballynahown) 31km i'r gorllewin o ddinas Gaillimh. Mae'n golegau, neu math o ganolfan dysgu iaith sydd, mewn cyd-destun Gymraeg, yn gyfuniad o Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn a Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Sefydlwyd Coleg Chamuis gan Gearóid Denvir yn 1973, gyda 52 o fyfyrwyr, 2 athro a 10 teulu lletyol yn fodlon cymryd y cyfle gyda menter newydd. Mae Coleg Chamuis yn darparu'n flynyddol ar gyfer tua 1,700 o fyfyrwyr o bob rhan o Iwerddon ar ein 10 cwrs. Mae dros 70,000 o fyfyrwyr wedi derbyn “Fáilte Chroíúil na Gaeltachta” gennym ers 1973.[5]

Aneddiadau

golygu
 
Carreg yn cofnodi enw'r pentref
 
Tafarn An Tobar (Y Ffynnon) yn An Spidéal

Mae Gaeltacht ac Ynysoedd Galway yn gorchuddio rhannau helaeth o Swydd Gaillimhe. Mae'r Gaeltacht yn ymestyn o Baile Chláir, i'r dwyrain o'r ddinas i Cloch na Ron yng ngorllewin Conamara, pellter o tua 100km ac o Ynysoedd Árann tua'r gogledd i Duiche Sheoigheach sy'n ffinio â Swydd Mayo. Mae ardal y Gaeltacht hefyd yn ymestyn dros drefi sydd o fewn ffin Dinas Galway.[6]

Mae llawer o Gaeltacht Galway wedi'i leoli yn rhanbarth Conamara ac mae Conamara yn adnabyddus fel rhanbarth sydd â chysylltiadau â lleoedd ledled y byd ond sydd â'i diwylliant unigryw ei hun hefyd. Mae rhai o atyniadau amlycaf Gaeltacht Galway – Canolfan Cuimhneacháin na nImirceach yn Carna, Ionad Oidhreachta Leitir Mealláin (Canolfan Treftadaeth Leitir Mealláin) a phrosiect Geoparc 'Joyce Country' – yn arddangos y dreftadaeth gyfoethog ond hefyd yr arloesedd sydd i’w gael yn yr ardal.

An Spidéal a'r Cheathrú Rua yw'r canolfannau poblogaeth mwyaf yn Gaeltacht Galway. Mae an Cheathrú Rua (Carraroe) 48km i'r gorllewin o ddinas Gaillimh ac mae'r Spidéal 19km i'r gorllewin.[7]

Tref Wasanaethau'r Gaeltacht

golygu

Dinas Gaillihm sydd â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht' i'r Gaeltacht wledig. Gydag hynny, mae digwyl i'r ddinas roi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.

Gweler hefyd

golygu
  • Gaelphobal - Corff cynllunio iaith trefol tu allan i'r Gaeltacht

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. udaras.ie Archifwyd 27 Mai 2011 yn y Peiriant Wayback
  2. "Galway". Údarás na Gaeltachta. 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2013.
  3. "The Gaeltacht Galway". Údarás na Gaeltachta. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2024.
  4. "About". Gwefan Colaiste Ui Chadhain. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
  5. "About". Gwefan Coláiste Chamuis. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2024.
  6. "Chapter 13: The Galway Gaeltacht and Islands, Plean Forbartha Chontae na Gaillimhe 2022-2028". Gwefan Cyngor Swydd Gaillimh. 30 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2024.
  7. "The Gaeltacht Galway". Údarás na Gaeltachta. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2024.