Dwyrain Canolbarth Lloegr
Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Dwyrain Canolbarth Lloegr (Saesneg: East Midlands).
Math | rhanbarthau Lloegr, ITL 1 statistical regions of England ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,533,222, 4,835,928 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lloegr ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 15,810.9398 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, De-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a'r Humber ![]() |
Cyfesurynnau | 52.98°N 0.75°W ![]() |
Cod SYG | E12000004 ![]() |
![]() | |

Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o hanner dwyreiniol y rhanbarth traddodiadol a adwaenir fel Canolbarth Lloegr. Yn benodol, mae'n cynnwys:
- Swydd Derby
- Swydd Gaerlŷr
- Rutland
- Swydd Northampton
- Swydd Nottingham
- y rhan fwyaf o Swydd Lincoln (Mae'r gweddill wedi'i gynnwys yn Swydd Efrog a'r Humber.)
Kinder Scout, yn Ardal y Copaon, Swydd Derby, yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth (636m). Byddai diffiniad llai caeth Dwyrain Canolbarth Lloegr yn cynnwys dinas Peterborough, Burton upon Trent yn Swydd Stafford, Gogledd Swydd Lincoln a Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln.
Gwneir penderfyniadau ynghylch ariannu'r rhanbarth gan Gynulliad Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr, a leolir ym Melton Mowbray. Nid siambr etholedig yw'r cynulliad, ond cwango.
Cyfeiriadau Golygu
Dolenni allanol Golygu
- (Saesneg) Swyddfa'r Llywodraeth ar gyfer Dwyrain Canolbarth Lloegr Archifwyd 2014-05-17 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Cynulliad Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr Archifwyd 2008-03-02 yn y Peiriant Wayback.
Amber Valley · Ashfield · Bassetlaw · Bolsover · Boston a Skegness · Bosworth · Brigg a Goole · Broxtowe · Canol Swydd Derby · Cleethorpes · Corby · Charnwood · Chesterfield · Daventry · De Caerlŷr · De Derby · De Holland a'r Deepings · De Northampton · De Nottingham · De Swydd Derby · De Swydd Gaerlŷr · De Swydd Northampton · Dwyrain Caerlŷr · Dwyrain Nottingham · Dyffrynnoedd Swydd Derby · Erewash · Gainsborough · Gedling · Gogledd Derby · Gogledd Northampton · Gogledd Nottingham · Gogledd-ddwyrain Swydd Derby · Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr · Gorllewin Caerlŷr · Grantham a Stamford · Harborough · High Peak · Kettering · Lincoln · Loughborough · Louth a Horncastle · Mansfield · Newark · Rushcliffe · Rutland a Melton · Scunthorpe · Sherwood · Sleaford a Gogledd Hykeham · Wellingborough