Hagiograffeg

bywgraffiadau’r seintiau
(Ailgyfeiriad o Buchedd)

Defnyddir y term hagiograffeg i gyfeirio at fywgraffiadau’r seintiau sydd wedi goroesi ar hyd y canrifoedd. Gall testun hagiograffeg fod yn destun ar hanes unrhyw unigolyn sanctaidd, boed yn destun rhyddiaith neu’n farddoniaeth, a hynny mewn unrhyw iaith. Pwrpas gwaith o’r fath yw lledaenu’r storïau am fywydau moesol y seintiau hyn: eu gwyrthiau, eu dioddefaint a’u hymroddiad ysbrydol.[1]

Cefndir golygu

Yn yr Oesoedd Canol, roedd bri mawr ar gofnodi hanesion y seintiau gyda gweithiau hagiograffeg yn cael eu cyfansoddi mewn gwahanol ieithoedd. Lluniwyd y casgliad mwyaf, o bosibl, yn Lladin gan Jacobus de Voragine, sef Y Llith Euraid. Defnyddid sawl ffyhonnell ganddo i lunio cofnod o hanes dwsinau o seintiau o bob math. Daeth ei waith yn ffynhonnell i nifer fawr o destunau eraill am y seintiau wrth i gyfieithwyr addasu a chyfieithu’r gwaith Lladin poblogaidd hwn.

Bydd gweithiau hagiograffeg Cymraeg yn aml yn defnyddio'r term buchedd yn eu teitlau (o byw + (gw)edd)[2] er enghraifft Buchedd Mair Wyry yn Llyfr Gwyn Rhydderch[3] , neu ddrama radio hagiograffeg Saunders Lewis, Buchedd Garmon. Geiriau o'r un tarddiad yw Buhez Llydaweg a Bywnans Cernyweg[4]

Hagiograffeg Saint Cymreig golygu

Credir i waith Jacobus de Voragine ddylanwadu ar rai o’r testunau Cymraeg a luniwyd o’r 14g ymlaen. Fodd bynnag, nid y Llith Euraid yw ffynhonnell pob buchedd Gymraeg gan fod hanesion nifer o’r seintiau brodorol yn unigryw ac wedi eu cofnodi yn y Gymraeg yn unig, a’u cynsail – boed yn Gymraeg neu’n Lladin – wedi mynd yn angof. Cedwid hwy mewn gwahanol lawysgrifau a chopiwyd hwy gan sawl ysgrifydd o’r 13g ymlaen, gyda’r casgliad mwyaf swmpus yn ymddangos yn llawysgrif Llansteffan 34[5] (dechrau’r 11g). Wrth gwrs, roedd canrifoedd rhwng cyfnod tybiedig y sant a’r cyfnod pan yr ysgrifennwyd y testun cynharaf am y sant hwnnw. Mae’r testunau rhyddiaith cynharaf sydd wedi goroesi yn y Gymraeg yn cynnwys hanes Dewi, Beuno a rhai o’r santesau rhyngwladol, megis Margred, Catrin a Mair o’r Aifft.

Cerddi hagiograffeg Cymraeg golygu

Roedd rhai beirdd yn gyfarwydd â’u hanesion a cheir cerddi i seintiau gan Feirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Un o’r cerddi hagiograffeg cynharaf yw’r gerdd i Gadfan Sant gan Lywelyn Fardd ac roedd Dewi Sant hefyd yn sant a folir gan Feirdd y Tywysogion. Gydag amser, gwelwyd cerddi i saint lleol, anghyfarwydd, yn ogystal â cherddi i’r seintiau rhyngwladol poblogaidd. Bardd diweddarach a ganodd i amrywiaeth o seintiau yw Lewys Glyn Cothi (canol y 15g.) ac fe barhaodd y traddodiad o ganu cerddi hagiograffeg ymhell i’r 16g. Yn aml, gwelir bod y cerddi’n cynnwys yr un storïau â’r testunau rhyddiaith am yr un sant, er bod ambell gerdd yn adlewyrchu traddodiadau coll am rai seintiau ble nad yw’r fuchedd ysgrifenedig wedi goroesi.

Defnydd cyfoes golygu

Mae'r geiriau hagiograffeg / buchedd yn cael eu defnyddio'n aml heddiw ar gyfer bywgraffiad a chofiannau seciwlar sy'n gwyngalchu hanes go iawn unigolyn, yn hytrach na dweud yr holl wir, y da a'r drwg, amdanynt.[6][7]

Gweler Hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Baring-Gould, S. a Fisher, J. (1907–1923), The Lives of the British Saints, pedair cyfrol (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
  • Cartwright, J. (gol.) (2003), Celtic Hagiography and Saints’ Cults (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
  • Cartwright, J. (2006), Feminine Sanctity and Spirituality in Medieval Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
  • Cartwright, J. (gol.) (2013), Mary Magdalene and her Sister Martha: An Edition and Translation of the Medieval Welsh Lives (Washington: Catholic University of America Press).
  • Doble, G. H. ac Evans, D. S. (goln) (1971), Lives of the Welsh Saints (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
  • Evans, D. S. (gol.) (1988), The Welsh Life of St David (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
  • James, J. W. (gol.) (1967), Rhigyfarch’s Life of St. David (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Jones, J. M. (gol.) (1912), The Life of Saint David and other tracts in Medieval Welsh from the Book of the Anchorite of Llandewivrevi A.D. 1346 (Rhydychen: Clarendon Press).
  • Lewis, B. (gol.) (2015), Medieval Welsh Poems to Saints and Shrines (Dulyn: Dublin Institute for Advanced Studies).
  • Ryan, W. G. (cyf.) (2012), The Golden Legend: Readings of the Saints (Princeton: Princeton University Press).
  • Wade-Evans, A. W. (gol. a chyf.) (1944), Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, The Lives and Genealogies of the Welsh Saints (Caerdydd: Welsh Academic Press).
  • Wade-Evans, A. W. (gol.) (1923), Life of St David (Llundain: Society for Promoting Christian Knowledge).

Cyfeiriadau golygu

  1. Cwlt y Seintiau yng Nghymru adalwyd 25 Ionawr 2017
  2. Geiriadur y Brifysgol
  3. Llyfr Gwyn Rhydderch Cyfeirnod: Peniarth MS 4
  4. Studies on the Collective and Feminine in Indo-European from a Diachronic and Typological Perspective
  5. "Llawysgrifau Llanstephan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-17. Cyrchwyd 2017-01-24.
  6. "Winston Churchill: Hagiography Versus History". The Globalist (yn Saesneg). 2014-11-23. Cyrchwyd 2021-04-29.
  7. "Definition of HAGIOGRAPHY". www.merriam-webster.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-29.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Hagiograffeg ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY=SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.