Comed Donati
Mae Comed Donati, a ddynodwyd yn ffurfiol C/1858 L1 a 1858 VI, yn gomed cyfnod hir a enwyd ar ôl y seryddwr Eidalaidd Giovanni Battista Donati a arsylwodd hi gyntaf ar 2 Mehefin, 1858 . Ar ôl y Gomed Fawr 1811, dyma'r gomed fwyaf disglair a ymddangosodd yn y 19eg ganrif. Hon hefyd oedd y gomed gyntaf i gael ei ffotograffio. Ni fydd y gomed i'w weld o'r Ddaear eto am 1600 blwyddyn.
Enghraifft o'r canlynol | non-periodic comet |
---|---|
Dyddiad darganfod | 2 Mehefin 1858 |
Echreiddiad orbital | 0.996295 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Mae yna dair comed Donati: C/1855 L1 (neu 1855 II), C/1858 L1 (yr un yma), a C/1864 R1 (neu 1864 I)..
Darganfyddiad ac arsylwadau
golyguArsylwodd Donati y gomed gyntaf ar 2 Mehefin o Arsyllfa Fflorens: roedd yn weladwy i ddechrau fel gwrthrych bach tebyg i nifiwl o faint 7 ger "pen" cytser Leo.[1] [2] Erbyn canol mis Awst roedd wedi dod yn ddigon gloyw i fod yn weladwy i'r llygad noeth. [3]
Ym mis Medi fe'i trosglwyddwyd i gytser yr Arth Mawr. Am lawer o'i ymddangosiad roedd mewn safle unigryw (ymhlith comedau mawr) yn yr awyr [3]
Roedd yn agosaf at y Ddaear ar 10 Hydref, 1858, ac am ran helaeth o fis Hydref roedd yn wrthrych gloyw iawn gyda chynffon lwch hir, tebyg i gleddyf pengam gyda chynffon nwy amlwg. Parhaodd yn wrthrych llygad noeth hyd Dachwedd i arsylwyr Hemisffer y De. [3] William Mann, prif gynorthwyydd yr Arsyllfa Frenhinol, Penrhyn Gobaith Da, oedd yr olaf i'w gweld, a'i canfu fel niwliogrwydd gwan ar 4 Mawrth, 1859. [4]
Yn ystod ei ymddangosiad astudiwyd y gomed yn arbennig gan y seryddwr George Phillips Bond a'i dad William Cranch Bond. Cyhoeddodd G P Bond ei sylwad, sylwadau ei dad ynghyd a sylwadau llawer o seryddwyr eraill mewn monograff, "An Account of the Great Comet of 1858 ", ei waith gwyddonol pwysicaf. Dyfarnwyd iddo Fedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, am y gwaith, yr Americanwr cyntaf i dderbyn y wobr. [5]
Ffotograffau o'r gomed
golyguTynnwyd llun llwyddiannus o Gomed Donati ar 27 Medi gan W. Usherwood, ffotograffydd portreadau yn Walton-on-the-Hill, Swydd Surrey, gan ddefnyddio datguddiad 7 eiliad gyda lens portread f / 2.4, y tro cyntaf i gomed gael ei ffotograffio. [6] Roedd ffotograff Usherwood, nad yw wedi goroesi, yn dangos y rhanbarth llachar o amgylch cnewyllyn y gomed a rhan o'r gynffon. Llwyddodd G P Bond hefyd i dynnu llun y gomed ar 28 Medi yn Arsyllfa Coleg Harvard, y ffotograff comed cyntaf trwy delesgop. Gwnaeth sawl ymgais gydag amseroedd amlygiad cynyddol. Ysgrifennodd yn ddiweddarach, "dim ond y cnewyllyn ac ychydig o'r niwliogrwydd 15" mewn diamedr a weithredodd ar y plât mewn datguddiad o chwe munud ". [7]
Cyfrifiadau orbitol
golyguCyfrifwyd orbitau diffiniol y gomed gan Friedrich Emil von Asten a George William Hill, yr olaf yn seiliedig ar bron i 1000 o safleoedd. [8] Roedd gan y gomed ogwydd orbitol o 116.9°. Oherwydd ei orbit eliptig hir, amcangyfrifir na fydd Comet Donati i'w weld yn mynd heibio i'r Ddaear eto tan y 4ydd mileniwm: cyfrifodd Asten dyddiad perihelion o Fedi 3738 a chyfnod orbitol o 1880 o flynyddoedd, ac awgrymodd Hill Medi 3808 a chyfnod o 1950 o flynyddoedd. [8]
Mewn celf a diwylliant
golyguYstyrir Comed Donati yn un o'r comedau harddaf a welwyd erioed. [9] Hi oedd un o'r comedau ddisgleiriaf y ganrif. Gwnaeth argraff gref ar artistiaid ac ar y cyhoedd.[10] Ar ôl cyfnod blaenorol o hysteria ar destun comedau, yn enwedig ym Mharis (a achoswyd yn rhannol gan amcangyfrif anghywir gan John Russell Hind a awgrymodd y byddai un yn taro'r Ddaear ym mis Mehefin 1857) aeth Comet Donati ymlaen i fod yr un a arsylwyd arni fwyaf yn y ganrif, oherwydd ei welededd gwych yn yr awyr dywyll i wylwyr Hemisffer y Gogledd, yn enwedig yn Ewrop, a thywydd braf ym mis Medi a mis Hydref. [11] Yr oedd William Henry Smyth, seryddwr o Loegr, yn ei gofio fel " un o'r gwrthrychau harddaf a welais erioed " . [11] Gwnaeth Donati, a oedd gynt yn ffigwr cymharol anadnabyddus, yn arwr y byd seryddol, a helpodd y gomed i feithrin brwdfrydedd cyffredinol am seryddiaeth ymhlith y cyhoedd. [12]
Mae Comed Donati yn ymddangos fel seren cynffonog yn awyr gynnar y noswaith mewn paentiad gan William Dyce, Pegwell Bay, Kent – a Recollection of October 5th 1858. [13] Cafodd sylw mewn nifer o frasluniau ac o leiaf un paentiad gan William Turner o Rydychen, ac mewn paentiad, "The Comet of 1858, as seen from the Heights of Dartmoor", gan Samuel Palmer. Ysgrifennodd Thomas Hardy ei gerdd The Comet at Yell'ham, ym 1902 am ei atgof o weld Comed Donati . [14] Ysgrifennodd Gwilym Marles cyfres o dribannau Morgannwg ar y testun Comed 1858.[15]
Yn ei gofnodion o Ynysfor Malay, mae'r naturiaethwr Cymreig Alfred Russel Wallace yn ysgrifennu am weld y gomed ym mis Hydref 1858 oddi ar ynys Tidore yn Indonesia.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "THE COMET - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1858-10-29. Cyrchwyd 2023-07-09.
- ↑ Stoyan, Atlas of Great Comets, CUP, 2015, p.126
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Bortle, The Bright Comet Chronicles, harvard.edu, adalwyd 09-07-2023
- ↑ Kronk, Cometography, v.2, p.273
- ↑ Trimble et al. (eds), Biographical Encyclopedia of Astronomers, 2007, p.147
- ↑ Kronk, Cometography, v.2, p.270
- ↑ The Earliest Comet Photographs, SAO/NASA Astrophysics Data System, https://journals.sagepub.com/doi/abs/10.1177/002182869602700202, adalwyd 9 Gorffennaf, 2023
- ↑ 8.0 8.1 Kronk, Cometography, v2, p.275
- ↑ Burnham, Great Comets, 2000, p.69
- ↑ "YCOMED - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1858-10-13. Cyrchwyd 2023-07-09.
- ↑ 11.0 11.1 Stoyan, 2015, p.127
- ↑ Gasperini, "The worldwide impact of Donati’s comet on art and society in the mid-19th century", Proceedings of IAU Symposium 2011, 340
- ↑ Rothstein, Edward.
- ↑ Gasperini, 2011, 343
- ↑ Edwards, Owen Morgan, gol. (1905). . Llanuwchllyn: Ab Owen. tt. 49–53.