C/2020 F3 (NEOWISE)

(Ailgyfeiriad o Comed Neowise)

Comed yw C/2020 F3 (NEOWISE), neu Comed NEOWISE, gydag orbit sydd bron yn barabolig a ddarganfuwyd ar 27 Fawrth 2020 gan delesgop gofod NEOWISE. Disgwylir i'r gomed aros yn weladwy i'r llygad noeth ym mis Gorffennaf.

C/2020 F3
Enghraifft o'r canlynolnon-periodic comet, near-parabolic comet Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod27 Mawrth 2020 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.99917802733599 ±8.5e-07 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Comed NEOWISE ar 9 Gorffennaf 2020

Hanes ac arsylwadau golygu

Pasiodd Comed NEOWISE agosaf at yr Haul ar 3 Gorffennaf 2020 ar bellter o 0.29 uned seryddol (43×10^6 km). Roedd y gomed lai nag 20 gradd o'r Haul rhwng 11 Mehefin 2020 a 9 Gorffennaf 2020. Erbyn 10 Mehefin 2020 gan fod y gomed yn cael ei cholli i lewyrch yr Haul, roedd yn faint ymddangosiadol 7. Pan aeth y gomed i olwg yr arsyllfa SOHO LASCO C3 ar 22 Mehefin 2020 roedd y gomed wedi cynyddu i faint 3.[1] Ym mis Gorffennaf, mae adlewyrch Comet NEOWISE wedi cynyddu i faint +1, llawer uwch na'r disgleirdeb a gyrhaeddwyd gan C/2020 F8 (SWAN), ac mae'r gomed wedi datblygu ail gynffon. Mae'r gynffon gyntaf wedi'i gwneud o nwy ac mae'r ail gynffon ddiweddarach wedi'i gwneud o lwch.

Bydd yn dynesu'n agosaf at y Ddaear ar 23 Gorffennaf 2020 ar bellter o 0.69 uned seryddol (103×10^6 km). Bydd y daith perihelion hwn yn cynyddu cyfnod orbitol y gomed o tua 4500 o flynyddoedd i tua 6800 o flynyddoedd.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. SOHO LASCO C3 – Michal Kusiak

Dolenni allanol golygu