Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw'r corff sy’n gweithredu fel Adran Goedwigaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n gyfrifol am reoli 38% o’r coetiroedd sydd dan reolaeth y Cynulliad, yn cynnwys coedwigoedd megis Coedwig Gwydyr a Choedwig Niwbwrch.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Daeth i ben | 31 Mawrth 2013 |
Olynydd | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Pencadlys | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a hefyd trwy yr incwm y mae'n ei godi o'r coetiroedd, un ai trwy werthu coed neu o weithgareddau hamdden ac eraill. Sefydlwyd yn 2003, wedi datganoli gweithgareddau Comisiwn Coedwigaeth y Deyrnas Unedig a sefydwyd ym 1919.
Mae'n un o'r brif bartneriaid yn y strategaeth "Coetiroedd i Gymru".
Er 1 Ebrill 2013 mae swyddogaethau'r comisiwn wedi cael eu trosglwyddo i Gyfoeth Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru Archifwyd 2009-12-07 yn y Peiriant Wayback