Comelinid
(Ailgyfeiriad o Commelinids)
Comelinidau | |
---|---|
Hedychium gardnerianum | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Ddim wedi'i restru: | Comelinidau |
Urddau | |
|
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol monocotyledonaidd yw'r comelinidau (Saesneg: commelinids). Fe'u nodweddir gan gyfansoddion anarferol yn eu cellfuriau sy'n fflwroleuol mewn golau uwchfioled. Mae'r grŵp yn cynnwys nifer o blanhigion o bwysigrwydd economaidd megis palmwydd, bananas, sinsir a grawnfwydydd fel gwenith, indrawn a reis.
Urddau a theuluoedd
golyguMae'r comelinidau'n cynnwys 4 urdd a 31 o deuluoedd yn ôl y system APG III:[1]
- Dasypogonaceae: llwyni a choed o Awstralia, 16 rhywogaeth
- Arecales
- Arecaceae: y palmwydd, 2361 rywogaeth e.e. palmwydden goco, palmwydden ddatys
- Commelinales
- Commelinaceae: planhigion llysieuol suddlon, 652 rywogaeth e.e. llysiau'r corryn
- Haemodoraceae: planhigion llysieuol â gwreiddiau coch, 116 rhywogaeth e.e. Pawen Cangarŵ
- Hanguanaceae: De-ddwyrain Asia ac Awstralasia, 10 rhywogaeth
- Philydraceae: Dwyrain Asia ac Awstralasia, 5 rhywogaeth
- Pontederiaceae: planhigion sy'n tyfu mewn dŵr neu gorsydd, 33 rhywogaeth
- Poales
- Anarthriaceae: Gorllewin Awstralia, 11 rhywogaeth
- Bromeliaceae: yr Amerig a Gorllewin Affrica, 1779 rhywogaeth e.e. pinafal
- Centrolepidaceae: De-ddwyrain Asia, Awstralasia a De America, 35 rhywogaeth
- Cyperaceae: yr hesg, ledled y byd, 5430 rhywogaeth
- Ecdeiocoleaceae: Gorllewin Awstralia, 3 rhywogaeth
- Eriocaulaceae: trofannau ac is-drofannau, 1160 rhywogaeth
- Flagellariaceae: lianau o Affrica, de Asia ac Awstralasia, 4 rhywogaeth
- Joinvilleaceae: de-ddwyrain Asia ac Awstralasia, 2 rywogaeth
- Juncaceae: y brwyn, ledled y byd, 430 rhywogaeth
- Mayacaceae: planhigion bach o wlyptiroedd, Affrica a'r Amerig, 4-10 rhywogaeth
- Poaceae: y gweiriau, ledled y byd, 10,035 rhywogaeth
- Rapateaceae: De America a gorllewin Affrica, 94 rhywogaeth
- Restionaceae: Chile, Affrica, de-ddwyrain Asia ac Awstralasia, 500 rhywogaeth
- Thurniaceae: De America a De Affrica, 4 rhywogaeth
- Typhaceae: ledled y byd, tua 25 rhywogaeth
- Xyridaceae: gwlyptiroedd mewn rhanbarthau cynnes, 260 rhywogaeth
- Zingiberales
- Cannaceae: planhigion llysieuol mawr o'r Amerig , 10 rhywogaeth
- Costaceae: fforestydd trofannol, 110 rhywogaeth
- Heliconiaceae: rhanbarthau trofannol o'r Amerig ac Awstralasia, 100-200 rhywogaeth
- Lowiaceae: De-ddwyrain Asia, 15 rhywogaeth
- Marantaceae: fforestydd trofannol, 550 rhywogaeth e.e. arorwt
- Musaceae: planhigion llysieuol mawr o Affrica, De Asia ac Awstralasia, 41 rywogaeth e.e. banana
- Strelitziaceae: De America, De Affrica a Madagasgar, 7 rhywogaeth
- Zingiberaceae: y trofannau, 1075-1300 rhywogaeth e.e. sinsir, cardamom, tyrmerig
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Angiosperm Phylogeny Group (2009) An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2), 105–121.
- Heywood, Vernon H.; Richard K. Brummitt, Ole Seberg & Alastair Culham (2007) Flowering Plant Families of the World, Royal Botanic Gardens, Kew.
- Stevens, P. F. (2001 ymlaen). Angiosperm Phylogeny Website. Adalwyd ar 17 Ebrill 2012.