Commodus
Marcus Aurelius Commodus Antoninus neu Commodus (31 Awst 161 – 31 Rhagfyr 192) oedd Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Lucius Aelius Aurelius Commodus. Bu'n gyd-ymerawdwr gyda'i dad Marcus Aurelius o 177 i 17 Mawrth 180, ac ar ôl hynny bu'n unig ymeradwr hyd ei farwolaeth..
Commodus | |
---|---|
Ganwyd | Lucius Aelius Aurelius Commodus 31 Awst 161 Lanuvium |
Bu farw | 31 Rhagfyr 192 o strangling Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llywodraethwr |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Marcus Aurelius |
Mam | Faustina yr Ieuengaf |
Priod | Bruttia Crispina |
Partner | Marcia |
Llinach | Nerva–Antonine dynasty |
Cafodd ei eni yn Lanuvium, Latium. Roedd yn fab i Marcus Aurelius ac yr oedd ganddo efaill, Antoninus, a fu farw yn bedair oed, a chwaer, Galeria Lucilla. Gwnaeth ei dad ef yn gyd-ymerawdwr yn 177. Pan fu farw Marcus Aurelius yn 180, dilynodd Commodus ef ar yr orsedd. Ar y dechrau yr oedd yn boblogaidd, gan fod llawer o barch i'w dad, ond yn fuan gwelwyd fod Commodus yn fath gwahanol o ymerawdwr. Rhoddodd rym i ffrindiau llwgr, a chynorthwyodd hwy i ddwyn arian oddi ar y wladwriaeth. Roedd yn arbennig o hoff o ymladdfeydd gladiator a byddai'n ymladd yn yr arena ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi cael cyffuriau i'w hatal rhag ymladd yn iawn neu oedd heb eu harfogi'n llawn. Gwnaeth hyn ef yn amhoblogaidd iawn gyda haenau uwch cymdeithas. Dywedir iddo orchymyn lladd y cyfan o boblogaeth un dref oherwydd ei fod yn credu fod un person wedi edrych yn gas arno, a chyhoeddodd ei hun yn dduw gyda'r enw Hercules Romanus.
Yn 192 distrywiwyd rhan o ddinas Rhufain gan dân, a chymerodd Commodus y cyfle i gyhoeddi ei fod yn ei hail-sefydlu dan yr enw Colonia Commodiana. Ychydig yn ddiweddarach bu cynllwyn yn ei erbyn, a thagwyd ef tra'r oedd yn cysgu gan gaethwas o'r enw Narciso. Dilynwyd ef gan Pertinax. Ar ôl ei farw cyhoeddodd Senedd Rhufain y damnatio memoriae. Seilir y ffilm Gladiator (2000) yn rhannol ar fywyd Commodus.
Rhagflaenydd: Marcus Aurelius |
Ymerawdwr Rhufain 177 – 31 Rhagfyr 192 |
Olynydd: Pertinax |