Pertinax
Publius Helvius Pertinax (1 Awst 126 – 28 Mawrth 193) oedd Ymerawdwr Rhufain o 1 Ionawr 193 hyd ei farwolaeth.
Pertinax | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 126 Alba |
Bu farw | 28 Mawrth 193 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol, milwr |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praefectus urbi, proconsul, llywodraethwr Rhufeinig |
Tad | Helvius Successus |
Mam | Unknown |
Priod | Flavia Titiana |
Partner | Annia Cornificia Faustina Minor |
Plant | Pertinax the Younger, Helvia |
Dechreuodd ei yrfa fel athro gramadeg, ond yn ddiweddarach penderfynodd chwilio am yrfa oedd yn talu'n well a daeth yn swyddog yn y fyddin Rufeinig. Daeth i amlygrwydd yn ystod y rhyfel yn erbyn y Parthiaid ac yn ddiweddarach ym Mhrydain, lle bu'n dribiwn militariadd lleng VI Victrix, ar Afon Donaw ac yn Dacia. Dan deyrnasiad Marcus Aurelius amharwyd ar ei yrfa gan gynllwynion yn y palas ymerodrol, ond daeth i amlygrwydd eto pan alwyd ef i gynorthwyo mewn rhyfel yn erbyn y Germaniaid. Cyn 185 yr oedd eisoes wedi bod yn rhaglaw taleithiau Moesia (uchaf ac isaf), Dacia, Syria a Britannia.
Yn y 180au bu'n delio a gwrthryfel ymhlith milwyr Rhufain ym Mhrydain. Anafwyd ef yn ddifrifol yn y broses, ond ar ôl gwella cosbodd y gwrthryfelwyr yn drwm. Bu'n broconswl Affrica (188-189) ac yn gonswl ar y cyd a'r ymerawdwr. Pan lofruddiwyd Commodus, cyhoeddwyd Pertinax fel ymerawdwr ar 31 Rhagfyr 192, ond dim ond 86 diwrnod oedd hyd ei deyrnasiad. Dywedir fod milwyr Gard y Praetoriwm yn disgwyl rhoddion ariannol pan ddaeth Pertinax yn ymerawdwr, a phan wrthodwyd hwy troes y milwyr yn ei erbyn. Llofruddiwyd ef gan aelodau o Gard y Praetoriwm a dilynwyd ef gan Septimius Severus.
Rhagflaenydd: Commodus |
Ymerawdwr Rhufain 1 Ionawr – 28 Mawrth 193 |
Olynydd: Didius Julianus |