Cymuned (Ffrainc)
Cymuned (Ffrangeg: commune) yw'r haen isaf o lywodraeth leol yn Ffrainc. Ar 1 Ionawr 2008, roedd 36,781 ohonynt yn Ffrainc, 36,569 o'r rhain ar dir mawr Ffrainc a 212 yn y départements tramor.
Fel gyda cymunedau Cymru, mae'r cyfan o Ffrainc wedi ei rhannu yn communes. Fodd bynnag, mae'r amrywiaeth mewn maint yn llawer mwy yn Ffrainc; y commune mwyaf yw dinas Paris, tra mae rhai communes eraill a phoblogaeth o ddeg person neu lai. Ar gyfartaledd, mae gan commune yn Ffrainc ei hun arwynebedd o 14.88 km² (5.75 milltir sgwâr neu 3,676 acer). Ar gyfartaledd, roedd poblogaeth commune yn 380. Mae llai na 500 o bobl yn byw yn 57.4% o'r communes.
Cyd-destun
golyguSefydlwyd y cymunedau adeg y Chwyldro Ffrengig i gymryd lle y plwyfi er mwyn torri'r cysylltiad rhwng yr Eglwys â'r Wladwriaeth mewn ymgyrch seciwlar. Gellid cymharu'r communes, yn fras iawn, â Chynghorau Cymuned Cymru.
Gweler hefyd
golygu- Départements Ffrainc - "siroedd" Ffrainc (er eu bod yn fwy pwerus na siroedd Cymru
- Arrondissements Paris - ardaloedd bwrdeistrefol Paris