Concrit
(Ailgyfeiriad o Concrid)
Defnydd adeiladu cyfansawdd yw concrit neu goncrid sy'n cynnwys yn bennaf cydgasgliad o ddefnyddiau mân, sment, a dŵr. Mae'r cydgasgliad yn aml yn cynnwys cerrig mân megis calchfaen a gwenithfaen a defnyddiau eraill megis tywod. Mae'r sment yn glynu'r defnyddiau mân at ei gilydd, ac mae'r dŵr yn galluogi'r cymysgedd i gael ei siapio ac yna ei galedu trwy broses hydradu. Defnydd caregog a chaled iawn yw'r canlyniad, sydd â chryfder cywasgol uchel ond cryfder tynnol is, ac felly'n aml caiff ei gyfnerthu gan ddefnyddiau cryf eu tyniant, megis dur.
Defnyddir concrit ar raddfa eang i adeiladu sylfeini, waliau, palmantau, pontydd, ffyrdd, argaeau, pibellau, ac ati.