Connie Francis
Cantores o'r Unol Daleithiau yw Connie Francis (Concetta Maria Franconero; ganed 12 Rhagfyr 1938) sy'n nodedig am ganu sawl math o gerddoriaeth boblogaidd ac mewn sawl iaith. Bu ei gyrfa ar ei hanterth yn y 1950au a'r 1960au, pryd rhyddhaodd nifer fawr o albymau a senglau o ganu gwerin a thraddodiadol, roc a rôl, baledi sentimental, a chaneuon difyr. Bu hefyd yn recordio caneuon gwlad, jazz, schlager, emynau ysbrydol, a detholion o sioeau cerdd Broadway.
Connie Francis | |
---|---|
Ffugenw | Connie Francis |
Ganwyd | Concetta Rosa Maria Franconero 12 Rhagfyr 1938, 12 Rhagfyr 1937 Newark |
Label recordio | MGM Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor, actor teledu, cyfansoddwr caneuon, actor ffilm, awdur |
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth bop, draddodiadol, roc a rôl, pop gwlad, jazz, canu gwlad |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Gwefan | http://www.conniefrancis.com |
llofnod | |
Ganed yn Newark, New Jersey, i deulu o Americanwyr Eidalaidd yn y dosbarth gweithiol. Dysgodd i ganu ac i ganu'r acordion ac ymddangosodd ar y rhaglen deledu Talent Scouts yn 1950. Mabwysiadodd yr enw llwyfan Connie Francis a pherfformiodd ar sioe deledu amrywiaethol i blant am bedair blynedd. Cafodd gontract gydag MGM Records yn 1955, ond methiannau a fu ei senglau cyntaf. Cafodd lwyddiant yn 1957 gyda'r gân "Who's Sorry Now" ac ymddangosodd ar y rhaglen Bandstand. Yn sgil llwyddiant Connie Francis Sings Italian Favorites (1959), recordiodd sawl albwm arall o ganeuon traddodiadol a oedd yn perthyn i wahanol grwpiau ethnig. Ar anterth ei gyrfa ymddangosodd Francis ar deledu yn aml ac actiodd mewn sawl ffilm i blant yn eu harddegau, megis Where the Boys Are (1960). Dirywiodd lwyddiannau'r eilunod Americanaidd ifainc yng nghanol y 1960au o ganlyniad i ddyfodiad y Beatles a bandiau roc eraill o Loegr, a phenderfynodd Francis gael seibiant yn ei gyrfa.[1]
Dychwelodd Francis at y llwyfan a'r stiwdio yn nechrau'r 1970au. Wedi perfformiad yn Long Island yn 1974, cafodd ei threisio yn ei hystafell gwesty gan dresmaswr, ac oherwydd y trawma trodd ei chefn ar fyd adloniant unwaith eto. Llofruddiwyd ei brawd hi gan y Maffia yn 1981, a threuliodd hi ryw ddeng mlynedd yn derbyn triniaeth seiciatrig i ymdopi â thrychinebau ei bywyd personol. Er gwaethaf hynny, dychwelodd at berfformio a recordio cerddoriaeth. Cyhoeddwyd dau hunangofiant ganddi, Who's Sorry Now? yn 1984 ac Among My Souvenirs yn 2017.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Connie Francis. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2019.