Americanwyr Eidalaidd

dinesydd yr Unol Daleithiau a'i ach yn yr Eidal

Y rhan o boblogaeth Unol Daleithiau America sydd yn disgyn o fewnfudwyr o'r Eidal yw Americanwyr Eidalaidd (Saesneg: Italian Americans, Eidaleg: italoamericani neu italo-americani, pronounced [ˌitaloameriˈkaːni]). Yn ôl y Gymdeithas Astudiaethau Eidalaidd-Americanaidd, maent yn cyfri am ryw 18 miliwn o Americanwyr, cynnydd ers 16 miliwn yn 2010, sydd yn cyfateb i 5.4 y cant o boblogaeth yr Unol Daleithiau. Lleolir y niferoedd mwyaf o Americanwyr Eidalaidd yn yr ardaloedd metropolitanaidd yn nhaleithiau'r Gogledd-ddwyrain a'r Gorllewin Canol, gyda chymunedau sylweddol mewn dinsoedd a threfi eraill ar draws y wlad.[1] Maent yn disgyn o'r rhyw 5.5 miliwn o Eidalwyr a ymfudodd i'r Unol Daleithiau rhwng dechrau'r 19g a dechrau'r 21g.

Americanwyr Eidalaidd
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig, ethnic minority group Edit this on Wikidata
MathEuropean Americans Edit this on Wikidata
MamiaithSaesneg, eidaleg edit this on wikidata
Label brodorolItaloamericani Edit this on Wikidata
Poblogaeth17.222 Edit this on Wikidata
CrefyddYr eglwys gatholig rufeinig, protestaniaeth edit this on wikidata
Rhan oItalian diaspora Edit this on Wikidata
Enw brodorolItaloamericani Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynnyddodd mewnfudo o'r Eidal i'r Unol Daleithiau yn sylweddol yn niwedd y 19g, ac yn y 1880au croesodd dwywaith gymaint o Eidalwyr Gefnfor yr Iwerydd nag yn yr holl hanner can mlynedd cynt.[2][3] Rhwng 1880 a 1914, ymfudodd uwch na 4 mliwn o Eidalwyr i'r Unol Daleithiau.[2][3] Daeth y niferoedd mwyaf o dde'r Eidal, a fu'n amaethyddol yn bennaf ac yn dlawd ers cannoedd o flynyddoed o ganlyniad i drethi uchel a rheolaeth gan bwerau tramor.[4][5] Ymsefydlodd y mwyafrif ohonynt yn ninasoedd ar hyd yr arfordir dwyreiniol, yn enwedig Efrog Newydd a Philadelphia. Ar y cychwyn, dynion ar ben eu hunain oeddynt a symudodd am waith, ac anfonasant daliadau yn ôl i'w teuluoedd yn y famwlad. Dychwelodd nifer o'r gweithwyr hyn yn ôl i'r Eidal. Ar droad y ganrif, daeth gwragedd a phlant hefyd ar y daith a ffynnai cymunedau Eidalaidd-Americanaidd yn y wlad newydd. Daeth mewnfudo ar raddfa eang i ben yn sydyn yn sgil cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, a gostyngodd y niferoedd blynyddol o fewnfudwyr Eidalaidd i'r miloedd (ac eithrio sbonc dros dro ym 1922). Cyfyngwyd ar fewnfudo o Dde Ewrop gan Ddeddfau Mewnfudo 1917 a 1924 a Deddf Cwota Frys 1921.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Brittingham, Angela, and G. Patricia De La Cruz (2004). Ancestry: 2000 Archifwyd 2004-12-04 yn y Library of Congress Web Archives Washington, D.C.: U.S. Dept. of Commerce, Economics and Statistics Administration, U.S. Census Bureau.
  2. 2.0 2.1 Annual Report of the Immigration and Naturalization Service (1966 ed.). WASHINGTON, D.C: United States Department of Justice, Immigration and Naturalization Service. June 1967. pp. 55–58. https://archive.org/download/annualreportofim1966unit/annualreportofim1966unit.pdf. Adalwyd July 13, 2022.
  3. 3.0 3.1 "Table 1: Italian Immigration To The United States By Years". Mtholyoke.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 4, 2020. Cyrchwyd October 7, 2017.
  4. Wepman, Dennis (2008). Immigration (yn Saesneg). Infobase Publishing. t. 171. ISBN 978-1-4381-0810-0.
  5. Mangione, Jerre and Ben Morreale, La Storia: Five Centuries of the Italian American Experience, Harper Perennial, 1992