Awdur, colofnydd, cyhoeddwr, buddsoddwr, ac aelod o Dŷ'r Arglwyddi y Deyrnas Unedig a aned yng Nghanada yw Conrad Moffat Black, Barwn Black o Crossharbour, OC, PC (Can.), KCSG (ganwyd 25 Awst 1944) oedd am bryd yn fogwl papurau newydd trydydd fwyaf y byd.[1] Rheolodd Hollinger International, Inc. Trwy gwmnïau cyswllt, cyhoeddodd y cwmni nifer o bapurau newydd mawr gan gynnwys The Daily Telegraph (y DU), Chicago Sun Times (UDA), Jerusalem Post (Israel), National Post (Canada), a channoedd o bapurau cymunedol yng Ngogledd America. Ganwyd Black ym Montreal, ond ildiodd ei ddinasyddiaeth Ganadaidd yn 2001 er mwyn dod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Mae'n briod i'r colofnydd ceidwadol Barbara Amiel.

Conrad Black
Ganwyd25 Awst 1944 Edit this on Wikidata
Montréal Edit this on Wikidata
Man preswylToronto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol McGill
  • Faculté de droit de l'Université Laval
  • Prifysgol Carleton
  • Coleg Canada Uchaf Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, hanesydd, cyhoeddwr, hunangofiannydd, cofiannydd, person busnes, colofnydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadGeorge Montegu Black II Edit this on Wikidata
MamJean Elizabeth Riley Edit this on Wikidata
PriodBarbara Amiel, Shirley Gail Walters Hishon Edit this on Wikidata
PlantJonathan David Conrad Black, Alana Whitney Elizabeth Black, James Patrick Black Edit this on Wikidata
Gwobr/auSwyddog Urdd Canada Edit this on Wikidata

Cafwyd yn euog o dwyll gan lys Americanaidd yn 2007 a dedfrydwyd i chwe mlynedd a hanner yn y carchar. Ar 19 Gorffennaf 2010 cafodd Black ei fechnïo. Dymchwelwyd dau o'r tri chyhuddiad olaf o dwyll post ym mis Hydref 2010 gan 7fed Lys Cylchdaith Apeliadau'r Unol Daleithiau.[2] Ar 24 Mehefin 2011 ailddedfrydwyd ar y cyhuddiad olaf o dwyll post ac un gyhuddiad o rwystro cyfiawnder gan dderbyn 42 mis yn y carchar a dirwy o $125,000 (USD). Cynhwysir y 29 mis y mae Black wedi gwasanaethu'n barod yn y ddedfryd hon, ac felly mae'n rhaid iddo ddychwelyd i'r carchar am 13 mis arall.[3] Wedi iddo ddychwelyd i garchar ym Miami ym mis Medi, cafodd ei ryddhau'n gynnar ar 4 Mai 2012 am ymddygiad da.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Conrad Black: Where did it all go wrong. BBC (27 Chwefror 2004).
  2. (Saesneg) Conrad Black granted bail. Toronto Star (19 Gorffennaf 2010).
  3. (Saesneg) Black sent back to jail for 13 months. Globe and Mail (24 Mehefin 2011).
  4. (Saesneg) Conrad Black released from Miami prison. BBC (4 Mai 2012).

Dolenni allanol

golygu
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: dymchwel, 7fed Lys Cylchdaith Apeliadau'r Unol Daleithiau o'r Saesneg "overturn, U.S. 7th Circuit Court of Appeals". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.