Conrad Gesner
Athronydd naturiol a meddyg o'r Swistir oedd Conrad Gesner (26 Mawrth 1516 – 13 Rhagfyr 1565)[1] sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at fotaneg a sŵoleg.
Conrad Gesner | |
---|---|
Ffugenw | Philiatrus Evonymus, Conradus Bolovesus, Jacobus Carronus, Philiater Euonymus, Philiater Evonymus, Philiatrus Euonymus, Philiatros Euonymus, Conrad Bolovesus, Konrad Bolovesus, Conrado Boloveso, Conradus Bolovesus Fridemontanus, Jacob Carronus, Jakob Carronus |
Ganwyd | 26 Mawrth 1516 Zürich |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1565 Zürich |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, swolegydd, dringwr mynyddoedd, meddyg, llyfryddiaethwr, academydd, biolegydd, botanegydd, adaregydd, gwenynwr, naturiaethydd |
Swydd | athro cadeiriol, athro cadeiriol |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Bibliotheca universalis |
Chwaraeon |
Ganed yn Zürich, Cydffederasiwn y Swistir, a'r diwygiwr Protestannaidd Huldrych Zwingli oedd ei dad bedydd. Astudiodd diwinyddiaeth yn Zürich ac Hebraeg yn Strasbwrg, a meddygaeth yn Bourges, Paris, a Basel. Gweithiodd yn athro Groeg yn Ysgol Lausanne o 1537 i 1540 a derbyniodd ei ddoethuriaeth feddygol ym 1541. Aeth i Montpellier i astudio botaneg cyn iddo ymsefydlu yn Basel i weithio yn feddyg.[2]
Teithiodd i ddysgu mwy am blanhigion ac anifeiliaid, a chesglir ei arsylwadau am fyd natur a'i ddarluniau, yn ogystal â gwybodaeth a ddanfonwyd ato gan ysgolheigion eraill, yn y gwyddoniadur Historia animalium (1551–58). Yn y gwaith hwn fe heriai astudiaethau'r naturiaethwyr hynafol, Aristoteles yn enwedig. Er i Gesner wfftio bodolaeth creaduriaid chwedlonol megis cewri a seirenau, mae ei wyddoniadur yn cynnwys disgrifiadau o "bysgod-ddyn".[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Conrad Gesner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Awst 2020.
- ↑ 2.0 2.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: Scarecrow Press, 2004), tt. 164–5