Conrad II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Roedd Conrad II (c.990-1039) yn frenin yr Almaen (o 1024) ac Ymerawdwr Glân Rhufeinig (o 1027 hyd ei farwolaeth).
Conrad II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 990 Speyer |
Bu farw | 4 Mehefin 1039 Utrecht |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, brenin |
Tad | Henry of Speyer |
Mam | Adelheid van Metz |
Priod | Gisela of Swabia |
Plant | Henry III, Matilda of Franconia, Beatrix Salian |
Llinach | Salian dynasty |
llofnod | |
Roedd Conrad yn fab i Ddug Franconia a sefydlydd brehinllin Salia.
Yn 1026, croesodd yr Alpau â'i fyddin i ostwng gwrthryfel yng ngogledd yr Eidal. Cafodd ei goroni ym Milan a'r flwyddyn ar ôl hynny fe'i coronwyd yn ymerodr gan y Pab Ioan XIX (1024-1032).
Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i'r Almaen yn fuan ar ôl hynny i dawelu cyfres o bedwar gwrthryfel, yr hyn a wnaed erbyn 1033. Yn yr un flwyddyn fe'i coronwyd yn frenin Bwrgwyn. Yn 1036 torrodd gwrthryfel newydd allan yn yr Eidal; llwyddodd i drechu'r gwrthryfelwyr ond bu rhaid iddo ildio nifer o freintiau i'w ddeiliaid Eidalaidd.
Canodd yr offeiriad a llenor Wipo farwnad iddo pan fu farw yn Utrecht yn 1039, ychydig ar ôl iddo ddychwelyd o'r Eidal. Cafodd ei olynu gan ei fab Harri III.
Rhagflaenydd: Harri II |
Brenin yr Almaen 1024–1039 |
Olynydd: Harri III |
Rhagflaenydd: Harri II |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1027–1039 |
Olynydd: Harri III |
Rhagflaenydd: Harri II |
Brenin yr Eidal 1027–1039 |
Olynydd: Harri III |
Rhagflaenydd: Rudolff III |
Brenin Arles 1032–1039 |
Olynydd: Harri III |