Cora Sandel
Awdures o Norwy oedd Cora Sandel (20 Rhagfyr 1880 - 3 Ebrill 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd. Ei henw llawn oedd Sara Cecilia Görvell Fabricius a'i gwaith pwysicaf yw'r 'Drioleg Alberta'.[1] [2]
Cora Sandel | |
---|---|
Ffugenw | Cora Sandel |
Ganwyd | Sara Fabricius 20 Rhagfyr 1880 Christiania |
Bu farw | 3 Ebrill 1974 Uppsala domkyrkoförsamling |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | llenor |
Priod | Anders Jönsson |
Gwobr/au | Gwobr gwaddol Gyldendal, Marchog dosbarth Cyntaf Urdd Sant Olaf |
Fe'i ganed yn Christiania ar 20 Rhagfyr 1880 a bu farw yn Uppsala, Sweden.[3][4][5][6][7]
Magwraeth a phriodi
golyguGaned Sara yn "Kristiania" (Oslo erbyn hyn), Norwy. Ei rhieni oedd Jens Schow Fabricius (1839–1910) ac Anna Margareta Greger (1858-1903). Pan oedd yn 12 oed, symudodd ei theulu i Tromsø lle penodwyd ei thad yn swyddog yn y llynges.[8]
Dechreuodd Cora Sandel baentio gyda'i hathro Harriet Backer (1845–1932) ac yn 25 oed symudodd i Baris i ddatblygu ei sgiliau artistig. Roedd hi'n byw ymysg criw o artistiaid o Sgandinafia ym Mharis o 1906 i 1921. Ym 1913, priododd y cerflunydd Swedeg Anders Jönsson (1883–1965) a chawsant un plentyn. Yn 1921, dychwelodd y teulu i Sweden lle gwahanodd y cwpl yn 1922. Cwblhawyd yr ysgariad yn 1926.[9] [10][11]
Er gwaethaf ei llwyddiant llenyddol, arhosodd yn guddiedig y tu ôl i'w ffugenw a bu'n byw bywyd eithaf diarffordd, tawel. Bu'n byw yn Sweden a dim ond o bryd i'w gilydd yr ymwelodd â Norwy.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Norwy am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr gwaddol Gyldendal (1937), Marchog dosbarth Cyntaf Urdd Sant Olaf (1957) .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cora Sandel". Store norske leksikon. Cyrchwyd 27 Mai 2016.
- ↑ "Alberta and Freedom". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Chwefror 2012. Cyrchwyd 27 Mai 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Cora Sandel". KulturNav. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Fabricius". KulturNav. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Fabricius". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Pseud. For Sara Cecilie Margareta Gørvell Fabricius". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cora Sandel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Cora Sandel". KulturNav. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Fabricius". KulturNav. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Fabricius". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Pseud. For Sara Cecilie Margareta Gørvell Fabricius". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Cora Sandel".
- ↑ Man claddu: "Fabricius, Sara Cecilia Margareta". Cyrchwyd 4 Awst 2019.
- ↑ "Johan Rye Holmboe". lokalhistoriewiki.no. Cyrchwyd 1 Ebrill 2018.
- ↑ Tore Kirkholt. "Harriet Backer". Store norske leksikon. Cyrchwyd April 1, 2018.
- ↑ Janneken Øverland. "Cora Sandel". Norsk biografisk leksikon. Cyrchwyd 27 Mai 2016.
- ↑ "Anders Jönsson". Store norske leksikon. Cyrchwyd April 1, 2018.