Agor y brif ddewislen
Corgi Sir Aberteifi (neu Geredigion)
Corgi Sir Aberteifi
Corgi Sir Benfro
Corgi Sir Benfro
Y ddau frid gwahanol o gorgwn Cymreig. Mae'r brid o Sir Benfro ychydig yn fwy a chanddo gynffon hirach na fersiwn Ceredigion ac cheir mwy o amrywiaeth yn ei liw.
Chwith: Corgi Sir Aberteifi a de: Corgi Sir Benfro.

Math o gi corlanu, neu gi sodli, llwynogaidd yr olwg yw'r corgi sy'n frodorol o Gymru.[1] Mae'r enw'n 'corgi' yn air cyfansawdd, sy'n cynnwys dwy elfen: 'cor' am bach, fel yn 'corrach', a 'ci', ac un o'r ychydig eiriau Cymraeg sydd wedi cael eu mabwysiadu gan y Saesneg. Ceir dau frid neu fath o gorgwn Cymreig, sef corgi Sir Benfro (y mwyaf poblogaidd) a chorgi Sir Aberteifi (a elwir hefyd yn Gorgi Dyfed ac yn Gorgi Ceredigion. Ci byrgoes ydyw gyda chot felen gyda gwyn dan yr ên yn aml. Ci gyrru gwartheg oedd y corgi - yn ddigon bach a sydyn i sodli'r gwartheg (sef brathu'r sodlau) - er mwyn gyrru'r gwartheg, merlod a chobiau neu ddefaid gan fwyaf. Maent yn llwyddiannus iawn mewn sioeau ond cŵn anwes yw corgwn gan fwyaf heddiw.

Yn ôl traddodiad, roedd yn well gan y Tylwyth Teg farchogaeth y corgi nag unrhyw anifail arall.[2] Cyfeiriodd y nofel Saesneg Korgi (Top Shelf Productions) at y cysylltiad hwn gan fodau o deulu'r Tylwyth Teg, o'r enw "Mollies", yn cyd-fyw gyda'u cyfeillion 'Korgi' a edrychai'n ddigon tebyg i Gorgwn Sir Benfro.[3]

Weithiau defnyddiwyd y gair 'corgi' yn ffigyrol am berson neu blentyn sarrug ac afrywiog (yng Ngogledd a rhannau o Dde Cymru) a chyfrwys (yng Ngheredigion).

Ceir y cyfeiriad cyntaf at y corgi yn Llawysgrifau Hengwrt a sgwennwyd yn y 14g (HMSS ii. 296): ef awelei lawnslot drwy y hun. bot corrgi yn y gyfarth. Canodd y bardd Guto'r Glyn yn y 15g hefyd (GGl 6): Na helied yn hoywalawnt / gorgwn mân garw gwinau Mawnt.[4]

HanesGolygu

Corgi Ceredigion yw un o fridiau hynaf gwledydd Prydain a gweithiodd yn ddi-dor am ganrifoedd yn gyrru gwartheg.[1][5] Credir i Gorgi Sir Benfro, fodd bynnag, gael ei fewnforio i Ynys Prydain gan y Fflemiaid oddeutu 920 neu 1100.[1] Ceir posibilrwydd arall, sef fod y corgi hwn wedi'i groes-fridio o ddau gi: y Vallhund Danaidd a'r Spitz a ddygwyd yma gan y Llychlynwyr.[5]

Yn 1925 yr ymddangosodd y corgi mewn sioe gŵn am y tro cyntaf, a'r rheiny wedi dod yn syth o'r fferm lle roeddent yn gweithio.[5] Ychydig o sylw a gawsant ar y cychwyn, ond cychwynwyd ei fagu i edrych yn ddel, a daeth yn boblogaidd dros nos. [6] Am rai blynyddoedd, un brid oedd Sir Benfro a Sir Aberteifi, a gan iddynt gael eu magu am ganrifoedd o fewn milltiroedd i'w gilydd ar fryniau, yn gwneud yr un gwaith. Maent felly'n ddigon tebyg i'w gilydd. Gwyddys iddynt groes-fridio rhywfaint.

Bridiau tebygGolygu

Vallhund - y corgi Swedaidd[7]

NiferoeddGolygu

Bu cryn bryder ers y 2000au fod y nifer o gorgwn Cymreig yn prinhau a rhodwyd y brid hwn ar Restr Cŵn Prin Clwb Cennel Prydain. Yn 2013, dim ond 241 Corgi Cymreig oedd wedi'u cofrestru. I dynnu'r corgi o'r rhestr hon, mae'n rhaid cael dros 300.[8]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Cunliffe, Juliette (2004). The Encyclopedia of Dog Breeds. Parragon Publishing. p. 237.
  2. Hausman, Gerald (1998). The Mythology of Dogs. Macmillan. pp. 275–277.
  3. "Man's Best Friend: Slade talks Korgi". Cyrchwyd 2009. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 20 Rhagfyr 2015
  5. 5.0 5.1 5.2 "Welsh Corgis: Small Dogs With Big Dog Hearts". Cyrchwyd 2009. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. "Animal Planet Dog Breed Directory: Pembroke Corgi". Cyrchwyd 2009. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. Bwletin Llên Natur rhifyn 52[1]
  8. "Everybody Panic: Corgis Are On Their Way to Becoming Endangered". Time. 5 Tachwedd 2013. http://newsfeed.time.com/2013/11/05/everybody-panic-corgis-are-on-their-way-to-becoming-an-endangered-species/.
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: