Math o gi hela sy'n tarddu o Gymru yw'r Ci Hela Cymreig' (Helgi, neu'r bytheiad) sy'n frodorol o wledydd Prydain. Ceir llawer o sôn yn y Mabinogi a llenyddiaeth cynnar Cymru am gŵn hela, a chyfrifid y milgi yr adeg honno hefyd yn gi hela. Arferai'r uchelwyr gadw heidiau ohonynt i hela ceirw a baeddod gwyllt yn yr Oesoedd Canol ac erbyn y 16g dyfrgwn a llwynogod. Er nad yw mor gyflym a'r Ci hela Seisnig, mae'n llawer cryfach ci mewn tywydd garw ac ar y mynyddoedd.

Ci hela Cymreig
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Haid o gŵn hela Cymreig; Powys c. 1910au. Llun: P. B. Abery.
Ci Hela Cymreig yng Nglyn Ceiriog; tua 1885.
Llun o'r Ci Hela Cymreig a wnaed yn 1915.

Mae eu blew'n drwchus o hyd canolig, weithiau'n llyfn; mae'r lliw'n amrywio: du, brown golau, coch, gwyn neu gymysgedd o'r lliwiau hyn. Mae'r oedolyn ar gyfartaledd yn 24 modefedd (tua 60 cm) ac yn pwyso 70 - 75 pwys. Arferai fod o liw melyngoch a du.

Yn 1997 dengys llyfr bridio Cymdeithas Cŵn hela Cymreig fod 975 o gŵn gwaed pur wedi'u cofrestru ac ar eu llyfrau, mewn 24 haid.[1]

Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf, Cymraeg, at fytheiaid yn Y Llyfr Du o'r Waun yn y 13g (LlDW 10122), ond mae'r gair 'bytheiad' yn hen enw am gi hela, ymlyniad neu helgi - yn enwedig un ar gyfer hela llwynog. Mae'n fwy na phosib felly fod y bytheiad hynafol yr un brid a'r hyn a elwir heddiw'n 'Gi Hela Cymreig'.[2]

Gair a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniwr Oppian o Apamea, yn ei gerdd Cynegetica oedd Segussi, a oedd yn un o gŵn y brodorion Celtaidd:[3]

Ceir brid cryf o gŵn hela, bychan o ran maint, ond mawr o ran clod. Mae'r llwythi gwyllt hyn, gyda'u tatŵs ar eu cefnau, yn bridio ac yn galw math a elwir yn Agassia. Dydy nhw'n ddim mwy (o ran main) na chŵn barus o dan ein byrddau bwyd: cŵn byrdew, tenau, blewog, llygatddu gyda chrafangau cryfion ar ei bawenau a cheg yn llond o ddannedd miniog, gwych am larpio ei ysglyfaeth. Ond ei brif nodwedd, fodd bynnag, yw ei drwyn gwych am ganfod a dilyn ysglyfaeth - dyma'r gorau sydd! Gall ganfod olion olion pawennau neu draed ar y ddaear, a gall ffroeni'r awyr a chanfod ei brae.[4]

—Oppian, Cynegetica, I, 468–480[5]

Yng Nghyfraith Hywel Dda nodir fod gwerth y ci hela wedi ei hyfforddi yn 240 ciniog a 120 am gi heb ei hyfforddi; mewn cymhariaeth, gwerth ceffyl gwedd wedi'i hyfforddi oedd 120 ceiniog.

Mae gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn frith o gyfeiriadau at y ci hela, gan ei glodfori ar bob adeg; dyma'r trydydd anifail y cyfeirir ato fynychaf (ar ôl meirch ac ych) yn y cywyddau er enghraifft.[6] Canodd Dafydd ap Gwilym yn y 14g sawl cyfeiriad ato gan gynnwys A'm llu bytheiaid i’m llaw (GDG 107; gol Thomas Parry (1952) a chanodd Tudur Aled yn niwedd y 15ed ganrif: Bytheiad da, beth a’i tynn / O’r iawn ôl, er a wnelyn?[7]

Helgwn eraill yn yr Oesoedd Canol

golygu

Gelwir y ci hela yn aml yn 'filgwn' neu 'fytheiaid'. Sonir am y milgi yn y cyfreithiau Cymreig, gan wahaniaethu rhyngddo a’r gellgi. Mae'n debyg bod y milgi yn debyg i'r milgi presennol, a'r gellgi yn gryfach ac yn fwy ac yn debyg i hyddgi. Roedd y bytheiad yn nodedig am ei gyfarth a'i allu i ddilyn arolg anifail; math arall o gi a ffroen da ganddo oedd yr olrhead, a roddodd i ni'r gair 'olrhain'.

'Pencynydd' oedd y prif heliwr a cheidwad yr helgwn, ac roedd hefyd yn un o swyddogion y llys brenhinol gyda chyfrifoldeb dros nifer o gynyddion. Mae cywydd Guto'r Glyn yn dangos i ni fod Uchelwyr ei oes yn bridio helgwn:

Gwreiddiol Ffurf fodern
Hely weithian yw d’amcan di,
Cynhyrchu cŵn a’u herchi;
Arfer Siôn Hanmer yw hyn,
Un fwriad awn i Ferwyn.
Er bwrw cŵn ar Barc Enwig,
Ba les yw cŵn heb als cig?
Hela bellach yw dy fwriad di,
magu cŵn a galw arnynt;
arfer Siôn Hanmer yw hyn,
awn ag un bwriad i’r Berwyn.
Er mwyn gollwng cŵn ar Barc Enwig,
pa les yw cŵn heb arf i dorri cig?

Dywedir bod gan y cŵn hela ganolau main a mynwesau dwfn (Dwy ddwyfron leision i lawr / dwy fynwes hir hyd y llawr). Mae Guto’n brolio eu cyflymder, gan ddweud eu bod yn gynt na'r corwynt tuag at y caeriyrchod. Cyfeiria hefyd at goleri'r cŵn a sonir am hyn yn y cyfreithiau Cymreig. Cir hefyd gyfeiriad at drin eu blew â chrib. Mae'r bardd yn rhoi sylw arbennig i gotiau’r cŵn yn y gerdd gan ddweud bod ganddynt wallt cyrliog (cyfrodeddwallt) a chrwyn o liw llwydrew gyda blew fel cotwm (crwyn llwydrew / … cotwm yw’r blew), ac mae'n eu cymharu gyda dau lew a chanddynt flew fel y pared o wiail plethedig.[6]

Ymddengys felly fod yr helgi canoloesol yn fwy na'r milgi a geir heddiw ac iddo flew garw a chryfder a thaldra'r Ci hela Cymreig.

Tymer a chymeriad

golygu

Cyn cael ei ddofi arferai'r ci hela hwn hel ei fwyd mewn heidiau a thros y blynyddoedd mae wedi cynefino gyda thirwedd ac amgylchedd creigiog ac oer Cymru. Mae'r ci dof a hyfforddwyd yn drlwyr yn gi anwes da, yn enwedig mewn cartref o blant. Cânt eu disgrifio fel cŵn deallus, teyrngar i'w perchnogion a bodlon.

Cydnabyddiaeth

golygu

Cofrestrwyd y Ci hela Cymreig gyda'r Gymdeithas Cŵn Hela Cymreig, sydd a'u llyfr bridio'n dyddio i 1922, ac sydd wedi cadw cofnodion o'r cŵn gwaed pur ers 1928. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn unswydd er mwyn gwarchod y Ci Hela Cymreig, fel brid unigryw.[8] Fe'i cydnabyddwyd gan 'Glwb Cennel yr UD' ers 1 Ionawr 2006.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Adroddiad Submission to the Committee of Inquiry into Hunting with Dogs gan y Gymdeithas Cŵn hela Cymreig; Chwefror 2000; adalwyd 19 Rhagfyr 2015
  2. [1]Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC; adalwyd 19 Rhagfyr 2015
  3. "Welsh Springer Spaniel Did You Know?". American Kennel Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-04. Cyrchwyd 11 Chwefror 2010.
  4. Er mai Lladin yw'r gwreiddiol, cyfieithwyd y darn yma o'r Saesneg: There is a strong breed of hunting dog, small in size but no less worthy of great praise. These the wild tribes of Britons with their tattooed backs rear and call by the name of Agassian. Their size is like that of worthless and greedy domestic table dogs; squat, emaciated, shaggy, dull of eye, but endowed with feet armed with powerful claws and a mouth sharp with close-set venomous tearing teeth. It is by virtue of its nose, however, that the Agassian is most exalted, and for tracking it is the best there is; for it is very adept at discovering the tracks of things that walk upon the ground, and skilled too at marking the airborne scent.
  5. Cited in: Ireland, Stanley (2008). "Chapter 15: Government, Commerce and Society". Roman Britain: A Sourcebook. Routledge Sourcebooks for the Ancient World (arg. 3rd). Taylor & Francis. t. 216, §507. ISBN 9780415471770. OCLC 223811588.
  6. 6.0 6.1 gutorglyn.net; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  7. Gwaith Tudur Aled; gol. T. Gwynn Jones
  8. "[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]". nlw.org.uk. URL–wikilink conflict (help)
  9. "United Kennel Club: Welsh Hound". Ukcdogs.com. 2006-01-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-10. Cyrchwyd 2013-06-20.