Corn Hirlas

Un o regalia Gorsedd Cymru a ddenfyddir yn seremoniau'r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Corn Hirlas (neu weithiau Corn Buelyn gynt) yn gorn a ddefnyddir yn seremonïau Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Corn Hirlas
Buddug Morwena Jones, Brenhines y Fro gyda'r Corn Hirlas yn, Eisteddfod 1955
Enghraifft o'r canlynolRegalia Edit this on Wikidata
 
Corn Hirlas, Eisteddfod 1910

Yn 1167 dywed Cynddelw Brydydd Mawr, bardd i Owain Gwynedd, "yfais";

O win cyfrgain nid cyfrgoll

O fedd o fuelyn oll[1]

Roedd 'buelyn' yn cyfeirio at yr Bual (ych bannog neu bison) a fodolai ym Mhrydain yn yr oesoedd a fu; a gwnaed y corn yfed o gorn bual. Yng nghyfnod Hywel Dda defnyddiodd y "pen cynydd" y corn buelyn i gasglu milwyr ynghyd a'u rhybuddio fod rhyfel yn agosáu ac hefyd i gasglu cŵn hela Cymreig at eu gilydd wrth hela.[2]

Defnyddiwyd y corn hefyd i yfed medd a chyfansoddodd Owain Cyfeiliog awdl i'r "Corn Hirlas"

Corn gan anrhydedd yng nghyfeddau

Hirlas - buelin hen ariant Ai gortho nid gordenau[3]

Y Corn Hirlas yn yr Eisteddfod Genedlaethol

golygu
 
Corn Hirlas yn Amgueddfa Gwynedd, 1907, William Goscombe John

Erbyn hyn defnyddir y Corn Hirlas yn seremonïau Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru bob blwyddyn.[4] Bydd Cyflwynydd y Corn Hirlas (arferid ei galw yn 'Morwyn y Fro' neu 'Brenhines y Fro') yn cario'r Corn ac yn ei gyflwyno i'r Archdderwydd gan ddweud, er enghraifft:

Hybarch Archdderwydd, yn enw Aelwydydd Wrecsam

gofynnwn i ti yfed o win ein croeso i'r Orsedd a'r Eisteddfod.[5]

Ceir sawl gofyniad i fod yn Gyflwynydd y Corn Hirlas:

  • byw neu'n dod o'r ardal lle cynhelir yr Eisteddfod
  • bod yn awyddus i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo'r iaith a diwylliant, ac yn gallu dangos sut maen nhw'n gwneud hyn
  • gallu symud yn urddasol a gosgeiddig i gerddoriaeth araf y delyn a llefaru ar eu cof, mewn llais clir a chroyw, eiriau'r cyflwyniad

Erbyn yr 21g os nad cyn hynny, croesawyd yn arbennig geisiadau'n arbennig gan ymgeiswyr anabl ac o bob cefndir ethnig ar gyfer y rôl.[5]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hughes, John Ceiriog (1863). Y bardd a'r cerddor: gyda hen ystraeon am danynt. Llyfr 4. Hughes a'i fab. tt. 111–113.
  2. Hughes, John Ceiriog (1863). Y bardd a'r cerddor: gyda hen ystraeon am danynt. Llyfr 4. Hughes a'i fab. tt. 111–113.
  3. Hughes, John Ceiriog (1863). Y bardd a'r cerddor: gyda hen ystraeon am danynt. Llyfr 4. Hughes a'i fab. tt. 111–113.
  4. "Find out more about the druids and the gorsedd rituals". BBC Cymru Fyw. 2023-07-24. Cyrchwyd 2024-05-31.
  5. 5.0 5.1 "Cyflwynydd y Corn Hirlas". Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 11 Mehefin 2024.CS1 maint: date and year (link)