Archdderwydd

pennaeth Gorsedd y Beirdd

Yr Archdderwydd yw llywydd Gorsedd y Beirdd, ac sydd felly yn llywyddu ar brif ddefodau Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Er mai Iolo Morgannwg oedd y cyntaf i lywyddu'r Orsedd pan y'i sefydlwyd, ei olynydd, David Griffiths, dan yr enw barddol "Clwydfardd" oedd yn cyntaf i'w adnabod gyda'r teitl swyddogol.[1]

Archdderwydd
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth, teitl corfforaethol Edit this on Wikidata
Matharweinydd mudiad, prif swyddog Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Ers 1932, dim ond enillwyr blaenorol o'r Goron neu'r Gadair sy'n gymwys i fod yn Archdderwydd. Erbyn cychwyn yr 21G, ehangwyd hyn i gynnwys enillwyr y Fedal Ryddiaith a'r cyntaf i'w ethol dan y rheol yma oedd Robyn Llŷn (Robyn Léwis) (2002–05).[1] Christine James, a ddaeth yn Archdderwydd yn 2013, oedd y fenyw gyntaf a'r dysgwr Cymraeg cyntaf (h.y. unigolyn lle nad oedd y Gymraeg yn famiaith) i ddal y teitl.[2]

Ers yr Ail Ryfel Byd, dim ond yn Archdderwydd sydd wedi gwasanaethau mwy nag un cyfnod tair blynedd. Etholwyd Albert Evans-Jones ("Cynan") yn 1950 ac eto yn 1963, ac fe'i ystyrir yn ddylanwad rhyddfrydol ar yr ŵyl; derbyniodd yn gyhoeddus nad oedd gan yr eisteddfod fodern gysylltiad uniongyrchol â derwyddiaeth hynafol. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1969 am ei wasanaeth i ddiwylliant Cymreig, yr unig Archdderwydd i dderbyn y teitl.[3]

Yn dilyn gohirio Eisteddfod Genedlaethol 2020 oherwydd Pandemig COVID-19, penderfynwyd ymestyn cyfnod yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd. Newidiwyd y rheolau hefyd er mwyn penn tymor pob Archdderwydd bellach yn ymestyn dros dair Eisteddfod yn hytrach na thros dair blynedd.[4]

Rhestr Archdderwyddon golygu

 
Clwydfardd yr Archdderwydd cyntaf
 
Cynan (canol); 1956


Enw Enw barddol Cyfnod yn y swydd
David Griffiths Clwydfardd 1876-1894  
Rowland Williams Hwfa Môn 1895-1905  
Evan Rees Dyfed 1905-1923  
John Cadvan Davies Cadvan 1923-1924  
Howell Elvet Lewis Elfed 1924-1928  
John Owen-Williams Pedrog 1928-1932  
John Jenkins Gwili 1932-1936  
John James Williams J.J. 1936-1939  
William Crwys Williams Crwys 1939-1947  
William Evans Wil Ifan 1947-1950  
Albert Evans-Jones Cynan 1950-1953  
John Dyfnallt Owen Dyfnallt 1954-1957  
William Morris Moi Plas 1957-1960  
Edgar Phillips Trefin 1960-1962
Albert Evans-Jones Cynan 1963-1966  
E. Gwyndaf Evans Gwyndaf 1966-1969
Gwilym Richard Tilsley Tilsli 1969-1972
Brinley Richards Brinli 1972-1975
R. Bryn Williams Bryn 1975-1978
Geraint Bowen Geraint 1978-1981
James Nicholas Jâms Nicolas 1981-1984
W. J. Gruffydd Elerydd 1984-1987
Emrys Roberts Emrys Deudraeth 1987-1990
William George Ap Llysor 1990-1993
John Gwilym Jones John Gwilym 1993-1996
Dafydd Rowlands Dafydd Rolant 1996-1999
Meirion Evans Meirion 1999-2002
Robyn Lewis Robin Llŷn 2002-2005
Selwyn Griffith Selwyn Iolen 2005-2008
Dic Jones Dic yr Hendre 2008-2009
T. James Jones Jim Parc Nest 2009-2013
 
Jim Parc Nest; 2011
Christine James Christine 2013-2016
Geraint Lloyd Owen Geraint Llifon 2016-2019
Myrddin ap Dafydd Myrddin ap Dafydd 2019-2024
Mererid Hopwood Mererid Hopwood 2024-2027

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "The Archdruid". National Museum Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2016. Cyrchwyd 2 September 2016.
  2. "Eisteddfod names Christine James first woman archdruid". BBC News. 23 Mehefin 2012. Cyrchwyd 8 Ebrill 2016.
  3. "Pwllheli to honour former National Eisteddfod Archdruid Cynan". Daily Post. 22 Ionawr 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2016. Cyrchwyd 8 Ebrill 2016.
  4. Ymestyn cyfnod Archdderwydd ar ôl gohirio'r Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 7 Awst 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.