Cornelia Schlosser
Awdures o'r Almaen oedd Cornelia Schlosser (7 Rhagfyr 1750 - 8 Mehefin 1777) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur.
Cornelia Schlosser | |
---|---|
Ganwyd | Cornelia Friederica Christiana Goethe 7 Rhagfyr 1750 Frankfurt am Main |
Bu farw | 8 Mehefin 1777 Emmendingen |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor |
Tad | Johann Caspar Goethe |
Mam | Katharina Elisabeth Goethe |
Priod | Johann Georg Schlosser |
Plant | Maria Anna Louise Nicolovius |
Bywyd
golyguGanwyd Cornelia Friederica Christiana Schlosser (Goethe gynt) yn Frankfurt am Main. Roedd yn chwaer i’r awdur a’r gwladweinydd, Johann Wolfgang von Goethe a bu’r berthynas rhyngddynt yn un glòs gydol ei hoes fer, er nad oedd yn tynnu ymlaen gyda’i rhieni. Roedd ei thad, Johan Caspar Goethe (1710-1782) yn gynghorydd imerialaidd a chafodd Cornelia fagwraeth oedd yn weddus i’r dosbarth uwch ar y pryd. Priododd gyfreithydd, Johann Georg Schlosser, a ganwyd dwy o ferched iddynt, Maria Anne Louise a Catharine Elisabeth Julie. Bu farw yn Emmendingen pan oedd ond 26 oed.[1]
Gyrfa
golyguMynnai tad Cornelia ei bod yn briodol i ferch o’r dosbarth uwch dderbyn peth addysg uwch a chafodd ei haddysgu gyda’i brawd, a oedd yn drefniant anarferol ar y pryd. Dysgodd ysgrifennu a darllen yn kindergarten, ac o saith oed ymlaen roedd yn rhannu yr un tiwtor â’i brawd, Johann Heinrich Thym a gyflwynodd Lladin a Groeg iddynt yn gyntaf, ac yna dwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd wersi Ffrangeg. Dysgodd Saesneg ac Eidaleg hefyd ac astudio’r gyfraith, daearyddiaeth, mathemateg a chaligraffeg. Cafodd wersi canu a dawnsio, gwersi arlunio a gwersi chwarae piano yn ogystal â dysgu sut i ymladd cleddyfau a marchogaeth. Fel nifer o ferched o’r dosbarth canol ac uwch cafodd hefyd wersi etiquette. Wrth iddi dyfu gwrthwynebai amserlen addysgol dynn ei thad a oedd, meddai, wedi ei hamddifadu o ryddid plentyndod. Yn ei hamser hamdden ymddiddorai mewn llenydda a llenyddiaeth, ac yn arbennig felly yng ngwaith ei brawd, Johann. Roedd yn hoff iawn o drafod llenyddiaeth gydag ef. Pan aeth i'r Brifysgol i Leipzig am dair blynedd, arhosodd hi gartref, ond buont yn llythyru'n gyson. Byddai Cornelia hefyd yn llythyru gyda'i chyfoedion ar bynciau megis safle'r ferch, ac mae nifer o'i chyfathrebiadau wedi eu cadw. Yn dilyn ei marwolaeth cafodd y Cornelia Goethe Center for Women’s and Gender Studies ei henwi ar ei hôl yn ogystal â’r wobr mae’n ei ddyfarnu, y Corneia Goethe Prize.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Valerian Tornius: Goethe — Leben, Wirken und Schaffen (Goethe — Life, Work and Influence). Ludwig Röhrscheid publishers, Bonn 1949, p. 29
- ↑ Karl Robert Mandelkow, Bodo Morawe: Goethes Briefe (Goethe's Letters). 2. edition. Vol. 1: Briefe der Jahre 1764-1786 . Christian Wegner publishers, Hamburg 1968, p.522