Cors Okefenokee
Cors yn yr Unol Daleithiau yw Cors Okefenokee, sydd ar y ffin rhwng taleithiau Georgia a Florida yn ne-ddwyrain y wlad. Ystyr yr enw yn iaith y brodorion yw Gwlad o bridd crynedig. Crëwyd Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Genedlaethol Okefenokee ym 1937. Maint y warchodfa yw 402,000 o aceri, gan gynnwys cors gypreswydd, coed gwm, llawrwydd, afonydd troellog a mawndir. Mae mwy na 400 math o anifeiliaid yno – 200 ohonynt yn adar a 60 ohonynt yn ymlusgiaid, gan gynnwys aligatorod a chrehyrod.[1] Torrwyd coed o 1910 ymlaen, a chollodd yr ardal filoedd o gypreswydd a llawrwydd cochion, gan gynnwys rhai'r mwyaf yn yr Unol Daleithiau cyn sefydliad y warchodfa genedlaethol. Mae'r hinsawdd yn un is-drofannol, ac mae tua 50 modfedd o law yn flynyddol. Mae dyfroedd asidig y gors rhwng dwy a deg troedfedd o ddyfnder. Mae 85 y cant yn llifo i lawr Afon Suwannee i gyfeiriad y gorllewin, a'r gweddill i lawr Afon St Mary's i Gefnfor yr Iwerydd. Mae tua 70 o ynysoedd mawn yn arnofio ar wyneb dŵr y gors.[2]
Math | cors |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Georgia, Florida |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 30.6188°N 82.321°W, 30.7°N 82.3°W |
Llednentydd | Afon Black |
Hanes
golyguYn amserau cynhanes, roedd tomenwyr yn byw yn y gors. Yn nes ymlaen daeth y gors yn ffin rhwng tri llwyth, sef y Mocama, y Timucua a'r Apalatchee. Cyn 1700, yr oedd sôn am y gors gan genhadon Sbaeneg a hefyd gan Saeson o De Carolina. Gelwir y Gors 'Lago Oconi' gan y Sbaenwyr. Gyrrwyd y Sbaenwyr o'r ardal gan y Saeson yn ystod Rhyfel y Frenhines Ann, fel y galwyd ymgyrch Americanaidd Rhyfel yr Olyniaeth Sbaenaidd. Ym 1715, gorchfygwyd y llwyth Yemassee gan Dde Carolina ac aethent i'r de i Afon St. Mary a ffurfiwyd cenedl y Seminôl gan lwythau Timucua, Hitchiti, a Yemassee. Yn ôl mytholeg Seminôl, oedd y gors yn deyrnas annibynnol.
Dechreuodd rhyfel rhwng Byddin yr Unol Daleithiau a'r Seminôl ac enciloedd rhai o'r Seminôl i'r gors. Ym 1830, pasiodd Deddf Symudiad yr Indiaidd ac aeth y fyddin i'r gors, lle adeiladwyd ceyrydd o'i chwmpas. Dechreuwyd gweithio'r tir ym 1852 a gwerthwyd y cyfan erbyn 1891. Adeiladwyd Rheilffordd Atlantic, Valdosta a Gorllewinol ym 1897-8. Dechreuodd gwaith torri coed ac adeiladwyd rheilffordd hyd at Ynys Billy i gludo coed.[3]
Planhigion
golyguMae glasswellt, hesg, rhedyn a brwyn yn tyfu yn ardaloedd mwy sychach. Mae lilïau'r dŵr, picrelys, alaw euraidd yn ardaloedd gwlyb. Mae nifer o blanhigion cigysol hefyd, gan gynnwys piserlys, chwys yr haul, tafod y gors a chwysigenwraidd.[2]
Adar
golyguGwelir sawl math o grehyrod, storc, garan yr Aifft. Mae hwyaid penfras, corhwyaid asgell-las a hwyaid eraill yn ymweld yn y gaeaf. Mae corsieir ac adar y bwn lleiaf yn fwy cyffredin yn yr haf. Mae adar eraill yn mynd trwodd yn ystod y gwanwyn a hydref. Mae hwyaid a crehyrod yno trwy'r flwyddyn.[2]
Mamaliaid
golyguTua 30 math o anifeiliaid yn byw yno, gan gynnwys llwynogod llwyd, oposwmiaid, racwniaid, eirth duon, ceirw cynffon wen, bobgathod, dyfrgwn, mincod, llostlydan|llostllydanod]] a chwningod.[2]
Ymlysgiaid
golyguClywir a gwelir aligatorod trwy'r amser. Amcangyfrir bod yno 12000 ohonynt yn y gors.[4]. Mae ambell neidr; y neidr indigo ydy'r un mwyaf, ond braidd yn brin. Hefyd, mae nadroedd enfys. Ymysg y rhai wenwynog yw gwiber ddŵr a neidr ddeimwnt. Gwelir sgincod a chrwbanod y môr, mwy nac hugain fath o lyffant a salamandrau.[2]
Pysgod
golyguGwelir amrywiaeth o bysgod yn y gors, gan gynnwys môr-nodwydd, llysywen, pysgodyn bach yr haul, picrel a sawl math o cathbysgod|gathbysgod]].[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Gwefan Encyclopedia Georgia
- ↑ "Gwefan ourgeorgiahistory". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-19. Cyrchwyd 2014-05-25.
- ↑ Fideo y Parc Genedlaethol