Minc

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Is-deulu: Mustelinae
Genws: Mustelidae[*]
Rhywogaeth: Lutreola
Enw deuenwol
Lutreola

Mae dwy rywogaeth o finc (lluosog: mincod) yn Ewrop: y minc Americanaidd Neovison vison (enw cyfystyr: Mustela vison) a'r minc Ewropeaidd Mustela lutreola. Y gyntaf yn unig sydd yng Nghymru. Ni chyrhaeddodd yr ail Gymru erioed. Er y tebygrwydd rhyngddynt (gellir eu gwahaniaethu wrth y clytyn llydan gwyn ar wefus uchaf y minc Ewropeaidd) nid ydynt o dras agos iawn oddi fewn i deulu'r carlymfilod ac mae'n debyg mai addasiadau i'w cynefin acwatig sydd i gyfri am debygrwydd ffurf eu cyrff. Mae gweddill yr erthygl hwn am y minc Americanaidd ac oni ddywedir y wahanol, dyma'r rhywogaeth a olygir wrth y term 'minc'.

Cedwid y minc Americanaidd yn eang yng Nghymru a Phrydain yng nghanol yr 20g mewn ffermydd ffwr. Yn anochel bu i nifer ddianc (mewn rhai achosion yn fwriadol dan law mudiadau hawliau anifeiliaid) ac fe'i cofnodwyd yn bridio yn y gwyllt ym Mhrydain am y tro cyntaf yn 1956. Ni chaiff groeso yn unman gan unrhyw garfan, gan iddo fwyta pysgod, llygod pengron y dŵr a phob math o fywyd gwyllt arall. Er gwaethaf ymdrechion glew i'w reoli mae ei afael yn dynn, bellach, ar y tir ar draws ynysoedd Prydain. Mae mincod yn nofwyr da, yn plymio 5-6 medr ac yn teithio o dan y dwr am ymron i 30 medr[1]

Rhywogaethau golygu

Maint golygu

Mae gwryw yn pwyso tua 1 kg (2.2 lb) ac yn mesur tua 62 cm (24 in) o hyd. Gall anifeiliaid a fagwyd ar fferm finc gyrraedd 3.2 kg (7.1 lb). Mae'r fenyw yn pwyso tua 600 g (1.32 lb) ac yn mesur 51 cm (20 in) o hyd. Nid yw'r mesuriadau hyn yn cynnwys y gynffon sydd yn gallu cyrraedd rhwng 12.8 centimetre (5.0 in) a 22.8 centimetre (9.0 in).

Lliw golygu

 
Mink fur stole

Mae côt disglair cyfoethog y minc yn y cyflwr gwyllt yn frown ac yn sidanaidd, ond mae anifeiliaid ffermydd-minc yn amrywio o wyn i ddu o'r bron. Fe adlewyrchir yr amrywiaeth yma yn y boblogaeth wyllt yng Nghymru a gweddill Prydain. O ran ansawdd y croen, mae'n frown tywyll, gyda neu heb smotiau gwynion ar y rhannau odditanodd, ac yn cynnwys isflew dwys, llyfn wedi ei orchuddio â gwrychflew disglair, anystwyth.

Cenhedlu a chyfebriad golygu

Mae'r tymor cenhedlu yn para o Ebrill i Fai. Mae minc yn dangos y ffenomenon rhyfedd o atal plannu'r ŵy am gyfnod. Er mai 39 diwrnod yw hyd gwirioneddol y cyfebriad, gall yr ŵy ymatal rhag datblygu am gyfnod sy'n amrywio yn ei hyd, i'r graddau y gall 76 niwrnod fynd heibio cyn cyrraedd y torllwyth. Y cyfnod arferol yw 45-52 niwrnod. Esgorir ar un torllwyth y flwyddyn yn unig, gyda rhwng chwech i ddeg cathan ar y tro.

Ymddygiad stereotypig golygu

Cedwir mincod mewn caethiwed yn bennaf am eu ffwr. Fe'u cedwir mewn cewyll batri ac yn aml maent yn arddangos ymddygiad stereotypig. Mae ymddygiad afnormal, ail-adroddus yn cynyddu tua amser bwydo, yn benodol camu yn ôl a blaen, a brathu'r gawell, a chredi'r mai ymddygiad mewn caethiwed sydd yn gyffelyb i hela gan y minc.[2] Nodwyd i ymddygiad stereotypig gynyddu hefyd yng ngwydd pobl.[2].

Hoedledd golygu

Hoedledd cyfartalog y minc yn y gwyllt yw deng mlynedd[3].

Bwyd golygu

 
Mink eating a crayfish

. Pysgod a bywyd acwatig arall, mamoliaid bychan, adar, ac wyau yw prif fwyd y minc[4].

Ysglyfaethwyr golygu

Y dylluan gorniog fawr Bubo virginianus, bobgathod, a llwynogod yw prif elynion y minc yn ei gynefin cynhenid. Fodd bynnag, lleddir mincod yn llawer amlach gan weithgareddau dynol.

Arferion ar lannau afonydd golygu

Mae minc yn hoff o fyw wrth ymyl dŵr ac anaml y'i gwelir ymhell o lannau afonydd. Hyd yn oed ar grwydr tueddant ddilyn nentydd a ffosydd. Weithiau fe adawant ddŵr yn gyfan gwbl am ychydig gannoedd o fetrau, yn enwedig tra'n herwa am gwningod, un o'u hoff fwydydd. Mewn ambell fan, yn enwedig yn yr Alban ac yng Ngwlad yr Ia (lle maent yn broblem), gallant fyw wrth lannau'r môr. Weithiau hefyd maent yn oddef trefi heb falio'n ormodol am bresenoldeb pobl.

Ymlediad i Wynedd golygu

Tan yn ddiweddar, ac yn wahanol i weddill Cymru, roedd Gwynedd yn sir “ddi-finc”. Dyma gofnodion cyntaf yr estron niweidiol hwn yn nyddiadur Llên Natur:

  • 10 Mawrth 1992: minc ar y lôn yn farw (Seimon Evans, Trawsfynydd). Ni wyddys hyd yma am unrhyw gofnod ’gwyllt’ yn y sir cyn hwn er gwaetha’r son am ddianc o fferm finc yn y 50au.
  • 5 Mawrth 1997: tua rwan minc ar y cob ym Mhorthmadog yn fflat ar y lon. (Twm Elias wedi adrodd, wedyn Gwilym Arthur a'i gasglodd, marc gwyn ar y gen.)
  • 17 Rhagfyr 1997: minc wedi ei ladd ar y cob, Porthmadog (Twm Elias ac un arall tua'r haf yr un flwyddyn, Llandecwyn - Ann Tomos)
  • 4 Mawrth 1998: Ken Bellaport yn son ei fod wedi cael minc y tu allan i Bermo. Soniodd am anifail maint ffwlbart, dim gwyn a chynffon fer - cofnod saff
  • 19 Awst 2001: gweithiwr o'r Bwrdd Dŵr wedi reportio minc ar yr Afon Llyfni, yn fyw gynta ac wedyn wedi ei ladd gan gar - dal yn gynnes. Gwyn o dan yr en.

Tiriogaeth golygu

Mae mincod yn greaduriaid diriogaethol iawn. Ni oddefa finc gwrywol wryw arall yn ei diriogaeth, ond ymddengys yn llai ymosodol at fenywod. Yn gyffredinol mae tiriogaethau gwrywod a benywod ar wahan, ond gall tiriogaeth benyw orgyffwrdd ag un gwryw. Ar achlysuron prin gall diriogaeth benyw sefyll yn llwyr ynghanol tirogaeth gwryw. Ymestyn tiriogaethau, sy'n tueddu i fod yn hir a chul, ar hyd torlannau afonydd, neu ar hyd ymylon llynnoedd neu gorsydd. Gall tiriogaeth amrywio o ran maint, hyd at hyd o nifer o filltiroedd. Mae tiriogaeth benywod yn llai na rhai gwrywod.

Mae i bob tiriogaeth un neu ddau barth canolog (parth creiddiol) lle mae'r minc yn treulio mwyafrif ei amser. Cysylltir y parth creiddiol fel arfer â chyflenwad da o fwyd, megis pwll llawn pysgod, neu warin gwningod gynhyrchiol. Gall aros yn y parth creiddiol, a all fod yn eitha bychan, am ddyddiau bwygilydd, tra'n ymweld o bryd i'w gilydd ag ymylon y diriogaeth. Cysylltir yr ymweliadau hyn ag amddiffyn y diriogaeth rhag gwrthwynebwyr. Mae'n debyg bod y minc yn gwirio am arwyddion o finc dieithr gan adael baw yn drwm o'i sawr personol i atgyfnerthu ei hawliau ar y diriogaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Couzens, D ac eraill (2017) Britain's Mammals: A field guide to the mammals of Britain and Ireland The Mammal Society
  2. 2.0 2.1 Mason, G. (1991). "Stereotypies in caged mink". Applied Animal Behaviour Science 30: 179–180. doi:10.1016/0168-1591(91)90103-5. https://archive.org/details/sim_applied-animal-behaviour-science_1991-04_30_1-2/page/179.
  3. Schlimme, Kurt. "ADW: Neovison vison: INFORMATION". Animaldiversity.ummz.umich.edu. Cyrchwyd 2017-02-28.
  4. Burns, John (2008). "Mink," Alaska Department of Fish & Game.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: