"Corws yr Eingion" yw'r enw Cymraeg am "Coro di Zingari" (yr Eidaleg ar gyfer "Corws y Sipswn"), corws o act 2, golygfa 1 o opera 1853 Giuseppe Verdi, Il trovatore. Mae'n darlunio Sipsiwn Sbaenaidd yn taro'u heingionau ar doriad gwawr ac yn canu canmoliaeth i waith caled, gwin da, a merched Sipsiwn. Mae'r darn hefyd yn cael ei adnabod weithiau gan ei eiriau agoriadol, "Vedi! Le fosche".

Corws yr Eingion
Eingion
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Rhan oIl trovatore Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1853 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth leisiol Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Trwy garedigrwydd Musopen

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.


Libreto Eidaleg a chyfieithiad bras i'r Gymraeg golygu

Zingari e zingare:[1]
Vedi! Le fosche notturne spoglie
De' cieli sveste l'immensa volta;
Sembra una vedova che alfin si toglie
i bruni panni ond'era involta.

All'opra! all'opra!
Dàgli, martella.

Chi del gitano i giorni abbella?
La zingarella!

Uomini:
Versami un tratto; lena e coraggio
Il corpo e l'anima traggon dal bere.

Tutti:
Oh guarda, guarda! del sole un raggio
Brilla più vivido nel mio [tuo] bicchiere!
All'opra, all'opra!
Dàgli, martella.

Chi del gitano i giorni abbella?

La zingarella!

Y Sipswn:
Gweler sut mae'r cymylau yn toddi i ffwrdd
O wyneb yr awyr pan fydd yr haul yn disgleirio, mae ei ddisgleirdeb yn pelydru;
Yn union fel gweddw, gan daflu ei gwisgoedd du,
Mae yn dangos ei holl harddwch mewn disgleirdeb.

Felly, i weithio nawr!
Codwch eich morthwylion!

Pwy sy'n troi diwrnod y Sipsiwn o dywyllwch i heulwen lachar?
Ei forwyn sipsiwn hyfryd!

Dynion:
Llenwch y ffiolau! Cryfder a dewrder newydd
Mae yn llifo o win cryf i enaid a chorff.

Pawb:
Gwelwch sut mae pelydrau'r haul yn chwarae ac yn disgleirio
Ac yn roi i'n gwin ysblander newydd hoyw.
Felly, i weithio nawr!
Codwch eich morthwylion!

Pwy sy'n troi diwrnod y Sipsiwn o dywyllwch i heulwen lachar?

Ei forwyn sipsiwn hyfryd!

Defnyddiau eraill golygu

Ysgrifennodd Thomas Baker Il Trovatore Quadrille (1855) ar gyfer piano, sy'n cynnwys symudiad yn seiliedig ar y corws hwn.[2] Yn yr un modd, ysgrifennodd y pianydd a chyfansoddwr Charles Grobe amrywiadau ar "Gorws yr Eingion" ar gyfer piano ym 1857. Cyrhaeddodd trefniant jas swing gan Jerry Gray ar gyfer Cerddorfa Glenn Miller rhif 3 ar y siartiau Billboard UDA ym 1941. Roedd y thema alawol hefyd yn ysbrydoliaeth ar gyfer "Rockin' the Anvil" ensemble jas swing ac acordion ar albwm 1956 John Serry Sr., Squeeze Play.

Cafodd alaw'r corws ei pharodïo yn "The Burglar's Chorus" yn opera gomig Gilbert a Sullivan o 1879, The Pirates of Penzance, ac yn fuan wedi hynny daeth yn gân boblogaidd gyda'r geiriau "Hail, Hail, the Gang's All Here".[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Testun Eidaleg, Gwefan Friends in Concert; adalwyd 18 Mai 2019
  2. Il Trovatore Quadrille (Baker, Thomas), Gwefan IMSLP; adalwyd 29 Ebrill 2019
  3. Richard Taruskin, The Oxford History of Western Music (Oxford University Press, 2005), cyf. 3, tud. 653