Cwmni cynhyrchu peiriannau modurol a sefydlwyd yn Llundain ym 1958 yw Cosworth, sy'n arbenigo mewn peiriannau hylosgi mewnol perfformiad uchel, powertrain, ac electroneg. Mae cynnyrch y cwmni ar gyfer ceir rasio yn bennaf, a diwydiannau modurol prif ffrwd i raddau llai. Lleolir y cwmni yn Northampton, Lloegr, ac mae ganddynt rai ffatrioedd yng Ngogledd America: yn Indianapolis a Mooresville, Gogledd Carolina.[1]

Cosworth
Math
menter
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd1958
SefydlyddKeith Duckworth
PencadlysNorthampton
CynnyrchPeiriant tanio mewnol
Lle ffurfioLlundain
Gwefanhttps://www.cosworth.com/ Edit this on Wikidata
Injan (neu 'beiriant') Cosworth Mk.IV ar gar 1962 Lotus 20
Cosworth Mk.XIII ar Lotus 59

Hyd at 2018 mae Cosworth wedi casglu 176 o wobrau yn Fformiwla Un (F1) fel cyflenwr injan, ac felly'n ail - y tu ôl i Ferrari.[2]

Cyflenodd Cosworth ei beiriannau rasio dosbarth cyntaf olaf i un tîm yn F1 yn 2013, sef Tîm Marussia F1.

Geirdarddiad golygu

Sefydlwyd y cwmni fel gwneuthurwr periannau tanio mewnol yng ngwledydd Prydain yn 1958 gan Mike Costin a Keith Duckworth. Deilliodd enw'r cwmni 'Cosworth', fel portmanteau o gyfenwau dau sylfaenydd y cwmni: COStin a duckWORTH.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Welcome to Cosworth". Cosworth.com. Cosworth. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-25. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2017.
  2. "Ford Cosworth - Wins". www.statsf1.com. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.